Cynghrair Undebol y Gogledd
Oddi ar Wicipedia
Cynghrair bêl-droed yng ngogledd Cymru yw Cynghrair Undebol y Gogledd (Saesneg: Welsh Alliance). Mae'r gynghrair hon yn gwasanaethu gogledd-orllewin Cymru ac arfordir y Gogledd ac yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd. Mae Cynghrair Undebol y Gogledd, gyda Chynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Chynghrair y Canolbarth, yn un o dair cynghrair sy'n bwydo'r Gynghrair Undebol (neu'r Cymru Alliance). Cynghrair Gwynedd a Chynghrair Clwyd yw'r ddwy gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Undebol y Gogledd. Ar gyfer tymor 2008/2009, mae'r gynghrair yn cael ei noddi gan gwmni modur Pentraeth.
Y timau[golygu]
Timau'r gynghrair ar gyfer tymor 2008/2009 yw:
- Amlwch
- Bethesda
- Y Bermo a Dyffryn
- Conwy
- Cyffordd Llandudno
- Dyffryn Nantlle
- Glan Conwy
- Helygain
- Llanberis
- Llanllyfni
- Llanrug
- Llanrwst
- Nefyn
- Pwllheli
- Rhydymwyn
- C.P.D. Y Rhyl (Ail-dîm)
- Treffynnon
Dolen allanol[golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol