C.P.D. Porthmadog

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Porthmadog
Enw llawn Clwb Pêl-droed Porthmadog
Llysenw(au) Port
Sefydlwyd 1884
Maes Y Traeth
Cadeirydd Baner Cymru Phil Jones
Rheolwr Baner Cymru Craig Papirnyk
Cynghrair D2
2022-23 11.

Clwb sy'n chwarae yn y Gynghrair Undebol ydy Clwb Pêl Droed Porthmadog (Saesneg: Porthmadog Football Club); mae wedi'i leoli ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Ffurfiwyd Clwb Pêl Droed Porthmadog yn 1884, sydd yn ei wneud yn un o glybiau hynaf Cymru. Yn 1900 ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ac fe enillodd y tîm y gynghrair hon yn 1902/03.

Roedd y 1950au, 1960au a'r 1970au yn gyfnod llwyddiannus iawn i Port. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 ac 1956/57. Ar ôl colli'r statws amatur, ac arwyddo Mel Charles, daeth llwyddiant i'r Traeth unwaith eto. Yn 1966, chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru ac, yn yr ail-chwarae ar y Vetch, denwyd torf mwyaf y tymor i Abertawe - 10,941. Enillwyd Cynghrair Cymru (Gogledd) ar 5 achlysur mewn 9 mlynedd.

Bu'n rhaid aros nes 1989/90 am bencampwriaeth nesaf Port, pan enillwyd y Daily Post Welsh Alliance. Roedd y llwyddiant hwn yn ddigon i hawlio lle Port fel aelodau gwreiddiol o Gynghrair y Cynghrair Undebol yn 1990, ac yn 1992 daeth Port yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Cymru (Cynghrair Konica ar y pryd).

Er fod gwaith da wedi ei gwblhau i sicrhau fod y stadiwm yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, ei chael hi'n anodd wnaeth Port ar y cae yn ystod eu tymor cyntaf. Serch hynny, helpodd rhediad gwych, ar ddiwedd y tymor, i newid pethau; enillodd Meilir Owen wobr rheolwr y mis a gorffennodd Port yn y nawfed safle. Roedd llawer o'r diolch, am y llwyddiant hwyr, i ychwanegiad yr ymosodwr Dave Taylor i'r garfan wrth iddo rwydo'n rheolaidd. Aeth Dave ymlaen, yn ei ail dymor, i fod yn brif sgoriwr y Gynghrair a hefyd Ewrop. Yn ystod ei gyfnod yn y clwb, sgoriodd 62 o goliau mewn 66 gêm.

Er i Marc Lloyd-Williams a Dave Taylor rwydo 70 o goliau yn nhymor 1993-4, anghyson iawn fu canlyniadau'r clwb wrth iddynt orffen yn yr 11eg safle. Llwyddodd Port, serch hynny, i dorri record arall, sef torf ucha'r Gynghrair Cenedlaethol. Wrth i Fangor wthio am y gynghrair, daeth torf o 2,900 i weld y gêm holl-bwysig hon. Ar y noson, enillodd Bangor o 2-0 ac felly ennill y Gynghrair a chael yr hawl i gystadlu yn Ewrop.

Dechreuwyd y trydydd tymor gyda rheolwr newydd. Gwnaed y penderfyniad syfrdanol i ddi-swyddo Meilir Owen fel rheolwr y clwb. Daeth cyn chwaraewr Cymru, Ian Edwards i gymryd yr awenau ond, ar ôl dechrau da, yr un oedd ei dynged o ar ôl disgyn o'r pedwerydd safle. Aeth pethau o ddrwg i waeth ar ôl i Mickey Thomas, cyn chwaraewr Manchester Utd, Wrecsam a Chymru, gymryd drosodd. Bu bron i'w dîm costus fynd i lawr ond, gyda chymorth Colin Hawkins, fe lwyddodd y tîm i aros i fyny o drwch blewyn.

Dechreuodd y pedwerydd tymor gyda newid arall yn swydd y rheolwr. Cafodd Colin Hawkins ei ddyrchafu i swydd y rheolwr. Ar y cae roedd hwn yn dymor di-gynnwrf. Ond, ni ellir dweud hyn am y digwyddiadau oddi-ar y cae. Bu bron i'r trafferthion ariannol dybryd olygu diwedd y clwb ond, diolch i waith caled y cyfarwyddwyr, cafodd y clwb ei ail lansio fel cwmni cyfyngedig. Codwyd bron i £10,000 o bunnoedd drwy werthu cyfrandaliadau, a daeth pres ychwanegol o gemau cyfeillgar, fel rhai yn erbyn Blackburn Rovers F.C. a Thim sêr S4C.

Yn 1996/97, gyda'r sefyllfa ariannol yn llawer gwell, cafodd y tîm ddechrau anhygoel o dda i'r tymor. Ni gollwyd gêm gartref tan y flwyddyn newydd a, phan ddaeth y Bari i'r Traeth, roedd yn gêm rhwng ail a phedwerydd, gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn ei gwahanu. Un o'r chwaraewyr, a gyfrannodd fwyaf at y dechreuad hwn, oedd Paul Roberts. Cyn gadael y clwb i ymuno â Wrecsam am £10,000, roedd wedi chwarae i dim dan-21 Cymru a hefyd yn brif sgoriwr y gynghrair. Yn wir, daeth ei gyfle i chwarae i'r Cymry ifanc, ar ôl iddo helpu Port i'w curo mewn gêm gyfeillgar [Port 1:0 Cymru U21].

Ar ôl ymadawiad Paul, newidiodd tymor Port yn gyfan gwbl, wrth i'r tîm orffen y tymor yn y degfed safle. Gorffennwyd y tymor gyda buddugoliaeth dros Gaernarfon yn rownd derfynol Cwpan Her Arfordir y Gogledd, gyda Port yn trechu Bangor a Bae Colwyn mewn rowndiau cynharach.

Yn 1997/98, daeth diwedd i gyfnod Port yng Nghynghrair Cymru yn dilyn rhediad gwael at ddiwedd y tymor. Yn rhyfeddol, wrth ystyried rhai o’r penderfyniadau a gymerwyd ers hynny, collodd Port eu safle er iddynt orffen yn 4ydd o’r gwaelod.

Yn 1998/99, yn ôl yn y Cynghrair Undebol, aeth y tymor ar chwâl yn dilyn y penderfyniad na fyddai Port yn cael eu dyrchafu oherwydd diffyg cyfleusterau. Gorffennodd Port yng nghanol y tabl ond llwyddwyd i gipio Cwpan y Gynghrair. Diolch i rediad o fuddugoliaethau ar ôl i Viv Williams godi'r awenau, yn dilyn ymadawiad Colin Hawkins,[1] gorffennodd y clwb yn bumed yn 1999-2000.

Wrth i Viv ac Osian Roberts adeiladu tîm newydd, codwyd gobeithion y cefnogwyr fod y dyddiau da ar fin dychwelyd i'r Traeth. A dyna sut y bu, wrth i Port gael un o’r tymhorau gorau yn eu hanes yn 2002-03. Enillwyd pob gêm gartref trwy gydol y tymor, gyda’r unig ddwy gêm iddynt golli yn dod ar ôl iddynt sicrhau dyrchafiad. Dyrchafwyd Port i Uwch Gynghrair Cymru gyda mantais o 19 pwynt ar frig y Gynghrair Undebol. Aeth Port ymlaen i ychwanegu dwy gwpan (Cwpan Her y Gogledd a Chwpan y Gynghrair) at eu llwyddiannau.

Gyda Viv Williams ac Osian Roberts yn ffurfio’r bartneriaeth rheoli a hyfforddi, camodd Porthmadog yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru gan orffen yn 12fed ddigon parchus yn 2003-04. Yn y tri tymor canlynol, gorffen yn yr 11eg oedd yr hanes ac yn 2006-07, hefyd, cafwyd buddugoliaethau nodedig mewn tri chwpan gan gyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan y Gynghrair. Osian Roberts erbyn hyn oedd y rheolwr gyda Viv Williams yn is-reolwr. Am y rhan fwyaf o’r tymor, roedd cwmwl du cosb drom ac annheg y Gymdeithas Bêl Droed, am sylwadau hiliol gan un unigolyn, yn hongian uwchben y clwb. Ni ddaeth y saga hwn i ben tan Fehefin 2007 wedi’r clwb fynd â’r achos at dribiwnlys annibynnol ac o’r diwedd sicrhawyd tegwch a chyfiawnder. [2]

Ond ar ôl tymhorau llwyddiannus, daeth cyfnod Viv ac Osian wrth y llyw i ben yn ddisymwth ar ddiwedd 2006-07 gyda ymadawiad Osian i swydd Cyfarwyddwr Hyfforddi gyda’r Gymdeithas Bêl Droed ac ymddiswyddodd Viv yr un pryd ar ôl 7 mlynedd gyda’r clwb. Penodwyd cyn chwaraewr Manchester United, Clayton Blackmore, yn rheolwr ar gyfer 2007-08. Ond byr bu arhosiad Blackmore ar ôl cychwyn trychinebus i’r tymor. Troi at Viv Williams unwaith eto wnaeth y clwb a gyda chymorth Alan Bickerstaff llwyddwyd i gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth ar ddiwrnod olaf y tymor. Ym mis Mai 2008, penodwyd Paul Whelan yn rheolwr i olynu Viv Williams.[3]

Yn dilyn rhediad gwael rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Chwefror 2009, lle collodd Port 7 gêm allan o wyth, cafodd Paul Whelan ei ddi-swyddo a chafodd cyn reolwr Aberystwyth, Caerfyrddin a'r Trallwng Tomi Morgan ei benodi'n rheolwr newydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl