Cynghrair Gwynedd
Cynghrair bêl-droed yn ardaloedd Gwynedd (ac eithrio de Meirionnydd), Ynys Môn a rhannau o Gonwy yw Cynghrair Gwynedd. Ffurfiwyd y gynghrair i bontio'r bwlch rhwng y cynghreiriau lleol a Chynghrair Cymru (Adran y Gogledd) ar ddechrau tymor 1983/1984.
Noddwyr y gynghrair ar gyfer tymor 2008/2009 yw Teejac. Mae Cwpan y Gynghrair yn cael ei noddi gan Fragwyr John Smith's.
Mae ennillwyr y gynghrair yn cael eu dyrchafu i Gynghrair Undebol Arfordir y Gogledd, sy'n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd. Mae'r gynghrair yn cael ei bwydo gan Gynghrair Caernarfon a'r Cylch a Chynghrair Ynys Môn. Roedd y gynghrair hefyd yn arfer cael ei bwydo gan Gynghrair Dyffryn Conwy, tan i'r gystadleuaeth honno ddod i ben oherwydd diffyg diddordeb ar ôl tymor 2001/2002.
Aelodau'r Gynghrair [golygu]
Timau'r Gynghrair ar gyfer tymor 2008/2009 yw:
- C.P.D. Prifysgol Bangor
- C.P.D. Bethel
- C.P.D. Biwmares
- C.P.D. Bodedern
- C.P.D. Bontnewydd
- C.P.D. Crwydriaid Caernarfon
- C.P.D. Hotspur Caergybi (Ail Dîm)
- C.P.D. Gaerwen
- C.P.D. Gwalchmai
- C.P.D. Llanfairfechan
- C.P.D. Llanystumdwy
- C.P.D. Porthmadog (Ail Dîm)
- C.P.D. Meithrinfeydd Pentraeth
Swyddogion y Gynghrair [golygu]
- Llywydd: Selwyn Griffith (Penisarwaun)
- Cadeirydd: Dafydd G. Owen (Bontnewydd)
- Is-gadeirydd: Alun Griffiths (Llanfairpwll)
- Ysgrifennydd: John Roberts (Llangefni)
- Ysgrifennydd Cofrestru: Dyfrig Hughes (Llangefni)
- Trysorydd: David James (Penrhosgarnedd)
- Aelodau Oes: Robert Owen (Llanddoged), R. Brian Jones (Penygroes), Owie Roberts (Nefyn)