Cynghrair Undebol
Cynghrair Undebol Huws Gray (Saesneg: Huws-Gray Alliance) yw prif gynghrair pêl-droed y Gogledd, sef ail lefel Pyramid Pêl-droed Cymru. Mae enillwyr y gynghrair yn cael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair Cymru. Mae'r Huws Gray Alliance yn cael ei bwydo gan dair cynghrair sef Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd (Gogledd-orllewin ac Arfordir y Gogledd), Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Chynghrair y Canolbarth.
Ffurfiwyd y gynghrair yn 1990, dwy flynedd cyn sefydlu Uwch Gynghriair Cymru. Tan hynny, roedd yn rhannu lefel uchaf pyramid pêl-droed Cymru gyda Chynghrair Cymru (y De). Daeth y Cymru Alliance â thimau gorau Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd, Cynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) a Chynghrair y Canolbarth at ei gilydd mewn un cynghrair, gyda'r bwriad o godi safon pêl-droed ar draws y rhanbarth.
Y Timau [golygu]
Timau tymor 2010-2011 yw:
- Bwcle
- Caersws - disgyn o Uwch Gynghrair Cymru yn 2010
- Cegidfa
- Cei Connah - disgyn o Uwch Gynghrair Cymru yn 2010
- Derwyddon Cefn - disgyn o Uwch Gynghrair Cymru yn 2010
- Llandudno
- Llangefni - Pencampwyr 2009-2010
- Penrhyncoch
- Porthmadog - disgyn o Uwch Gynghrair Cymru yn 2010
- Rhaeadr - dyrchafiad o Gynghrair Canolbarth Cymru yn 2010
- Rhos Aelwyd - dyrchafiad o Gynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) yn 2010
- Rhuthun
- Rhydymwyn
- Y Fflint
- Y Rhyl - disgyn o Uwch Gynghrair Cymru yn 2010
- Y Trallwng
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Huws Gray Alliance
- (Saesneg) Gwefan Huws Gray