C.P.D. Y Rhyl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
C.P.D. Y Rhyl
Logo rhyl.gif
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Rhyl
Llysenw(au) Y Lillywhites
Sefydlwyd 1883
Maes Belle Vue
Cynhwysedd 3,800
Cadeirydd Baner Cymru Paul Higginson
Rheolwr Baner Lloegr Greg Strong
Cynghrair Cynghrair Cymru
2008-2009 1af
Lliwiau cartref


Lliwiau oddi cartref


Mae Clwb Pêl Droed Y Rhyl (Saesneg: Rhyl Football Club) yn Glwb Pel-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru. Ffurfwyd y Clwb yn 1883 (Er i gwmni PLC gael eu ffurfio yn 1991). Maent yn chwarae ar Faes y Belle Vue, Rhyl sy'n dal hyd at 4,000 o gefnogwyr, gyda 1,700 o seddi.

Dros y blynyddoedd mae'r Rhyl wedi dod a chwaraewyr o safon i'r brig, yn bennaf Lee Trundle sy'n chwarae dros Dinas Abertawe. Ond am flynyddoedd mae'r clwb wedi bod yn ddi-nod yn Uwchgynghrair Cymru nes i gonsortiwm o dan y cyn-chwaraewr, Peter Parry, weld y canlyniadau yn gwella'n arw.

Yn 2003-04, fe enillodd y Clwb Uwchgynghrair Cymru, felly'n cyrraedd rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr (er iddynt golli 7-1 i Skonto Riga o Latfia yn y rownd gyntaf). Yn ogystal y tymor yna bu iddynt enill Cwpan y Gynghrair a Chwpan Cymru a chyrraedd rownd derfynnol Y Cwpan Cenedlaethol lle y bu iddynt golli 4-1 yn erbyn Wrecsam. Fe enillon nhw Gwpan Her Arfordir y Gogledd hefyd drwy guro Halkyn 6-0 yn y rownd derfynnol.

Roedd 2005-06 yn dymor led-lwyddiannus iddynt yn Ewrop. Er iddynt orffen y tymor heb gwpan i'w henw (drwy fynd allan o'r Gwpan yn y rownd gyn-derfynnol, a'r Gwpan Gynghrair yn rownd yr wyth olaf), roedd gorffen yn ail yn nhymor 2004-05 wedi sicrhau'i lle yng Nghwpan UEFA lle y bu iddynt drechu FK Atlantas o Lithwania yn y rownd rhagbrofol gyntaf. Bu iddynt wynebu Viking o Norwy yn yr ail rownd lle bu iddynt golli mewn ffordd glodadwy iawn, o 3-1.

Enillodd y Clwb Gwpan Cymru unwaith eto yn 2005-06 drwy drechu eu gelynion pennaf, Dinas Bangor ar Gae Ras Wrecsam 2-0. Enillon nhw Gwpan Arfordir y Gogledd hefyd o 2-1 yn erbyn Dinbych yn y rownd derfynnol. Fe orffennodd eu ymgyrch Ewropeaidd 2006-07 yn y rownd rhagbrofol gyntaf, collon nhw 2-1 yn erbyn FK Suduva.

[golygu] Llwyddiannau

  • Uwchgynghrair Cymru:
    • Enillwyr (2): 2003-04, 2008-09
    • Ail-Safle (1): 2004-05
  • Y Cynghrair Undebol:
    • Enillwyr (1): 1993-94
  • Cwpan Cymru:
    • Enillwyr (4): 1951-52, 1952-53, 2003-04, 2005-06
    • Ail-Safle (4): 1926-27, 1929-30, 1936-37, 1992-93
  • FAW Premier Cup:
    • Ail-Safle (1): 2003-04
  • Cwpan y Cynghrair Undebol:
    • Enillwyr (1): 1992-93
    • Ail-Safle (1): 1993-94
  • Cwpan Her Cymdeithas Beldroed Arfordir y Gogledd:
    • Enillwyr (15): 1927-28, 1929-30, 1933-34, 1934-35, 1938-39, 1947-48, 1949-50, 1950-51, 1951-52, 1953-54, 1954-55, 1969-70, 2003-04, 2005-06
  • Cwpan Amateur Cymru:
    • Enillwyr (1): 1971-72
  • Cheshire County League:
    • Enillwyr (3): 1947-48, 1950-51, 1970-71
  • NPL Presidents Cup:
    • Enillwyr (1): 1984-85
Cynghrair Cymru, 2011–2012

Tref Aberystwyth | Afan Lido | Airbus UK Brychdyn | Tref Y Bala | Dinas Bangor | Tref Caerfyrddin | Castell Nedd | Y Drenewydd | Llanelli | Port Talbot | Tref Prestatyn | Y Seintiau Newydd

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill