Uwch Gynghrair Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Cynghrair Merched Cymru

Uwch Gynghrair Cymru (Saesneg: Welsh Premier League) yw'r unig gynghrair bêl-droed cenedlaethol yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1992 a hyd nes 2002 fe'i hadnabuwyd fel Cynghrair Cymru (Saesneg: League of Wales). Ar hyn o bryd fe'i noddwyd gan gwmni Corbett Sports ac fe'i hadnabyddir yn swyddogol fel Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports. Mae Uwch Gynghrair Cymru wedi ei dethol yn rhif 46 ar restr detholion aelodau UEFA ar gyfer tymor 2012/13.

Sefydlu Cynghrair Cymru[golygu]

Er sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876, nid oedd CBDC erioed wedi sefydlu cynghrair cenedlaethol i'r clybiau oedd yn aelodau. Yn hanesyddol, mae timau gorau Cymru yn cystadlu ym mhyramid pêl-droed Lloegr gydag Aberdâr, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Merthyr a Wrecsam i gyd wedi bod yn aelodau o Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

Ym mis Hydref 1991 gwnaeth Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol CBDC ar y pryd, benderfyniad i sefydlu cynghrair genedlaethol gan ei fod yn credu bod bygythiad i fodolaeth Cymru fel gwald annibynnol o fewn Fifa. Mae gan CBDC ynghyd â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon sedd barhaol ar y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol yn ogystal ag is-lywyddiaeth Fifa parhaol. Credir fod nifer o wledydd yn gweld hyn yn annheg ac yn chwilio am esgus i uno pedair gwlad Ynysoedd Prydain fel un tîm ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Roedd y penderfyniad i sefydlu Cynghrair Cymru yn un dadleuol ac amhoblogaidd gyda'r clybiau oedd eisoes yn chwarae ym mhyramid Lloegr. Roedd wyth clwb: Bae Colwyn, Bangor, Caernarfon, Casnewydd, CPD Tref Merthyr, Y Barri, Y Drenewydd ac Y Rhyl, neu'r "Irate Eight" fel a'u gelwir gan y wasg Seisnig, yn bygwth mynd â CBDC i lys am yr hawl i aros yn is-gynghreiriau Lloegr.

Ond cyn y tymor agoriadol, penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ymuno yn y gynghrair newydd ond yn anffodus i'r Rhyl daeth eu cais yn rhy hwyr a bu rhaid iddyn nhw chwarae yn ail adran y pyramid Cymreig. Oherwydd gwaharddiadau gan CBDC bu rhaid i'r pum clwb arall chwarae eu gemau cartref dros y ffin yn Lloegr. Ond wedi tymor yn chwarae yng Nghaerwrangon penderfynodd Y Barri symud yn ôl i ymuno â'r pyramid Cymreig.

Llwyddodd y pedwar clwb alltud i sicrhau buddugoliaeth yn yr uchel Lys ym 1995 oedd yn caniatáu iddyn nhw ddychwelyd i Gymru i chwarae eu gemau cartref wrth barhau i chwarae yn y pyramid Seisnig; er y fuddugoliaeth yma penderfynodd Caernarfon ymuno â phyramid Cymru.

Mae Bae Colwyn, Casnewydd a Merthyr yn parhau i chwarae yn system bêl-droed Lloegr.

Strwythur[golygu]

Tymor Pencampwyr
1992–1993 Cwmbrân (1)
1993–1994 Bangor (1)
1994–1995 Bangor (2)
1995–1996 Y Barri (1)
1996–1997 Y Barri (2)
1997–1998 Y Barri (3)
1998–1999 Y Barri (4)
1999–2000 Total Network Solutions (1)
2000–2001 Y Barri (5)
2001–2002 Y Barri (6)
2002–2003 Y Barri (7)
2003–2004 Y Rhyl (1)
2004–2005 Total Network Solutions (2)
2005–2006 Total Network Solutions (3)
2006–2007 Y Seintiau Newydd (4)
2007–2008 Llanelli (1)
2008–2009 Y Rhyl (2)
2009–2010 Y Seintiau Newydd (5)
2010-2011 Bangor (3)
2011-2012 Y Seintiau Newydd (6)
2012-2013 Y Seintiau Newydd (7)

Wedi tymor 2009/10 cwtogwyd Uwch Gynghrair Cymru o 18 clwb i 12 clwb. Yn rhan agoriadol y tymor mae pob clwb yn y gynghrair yn wynebu pob clwb arall yn y gynghrair ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref. Wedi'r gemau yma orffen, mae Uwch Gynghrair Cymru yn rhannu'n ddwy gyda'r chwe chlwb uchaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn cystadlu am y bencampwriaeth, tra bo'r chwech isaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn brwydro i osgoi cwympo allan o'r Uwch Gynghrair.

Mae clybiau yn gallu sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru o ddau gynghrair rhanbarthol; Cynghrair Undebol y Gogledd a Chynghrair Cymru'r De. Er mwyn sicrhau dyrchafiad mae'n rhaid i glwb sicrhau Trwydded Ddomestig UEFA a gorffen y tymor yn bencampwyr un o'r is-gynghreiriau, neu orffen yn ail os nad yw'r pencampwyr yn cael eu hystyried am ddyrchafiad.

Ewrop[golygu]

Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Nghynghrair y Pencampwyr UEFA. Mae'r tîm sy'n gorffen yn yr ail safle, ynghyd â'r tîm sy'n cipio Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa ac mae un lle yng Nghynghrair Europa ar gael i enillwyr y gemau ail gyfle Ewropeaidd.

Os yw'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru hefyd yn ennill Uwch Gynghrair yna mae'r tîm sydd yn colli yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa, os mae'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru yn gorffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair, ac o'r herwydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa, yna bydd y tîm sydd yn gorffen yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa.

Gemau Ail Gyfle Ewropeaidd[golygu]

Ers tymor 2010/11 mae gemau ail gyfle Ewropeaidd yn digwydd ar ddiwedd y tymor arferol. Mae'r pum clwb sydd wedi gorffen uchaf yn yr Uwch Gynghrair ond sydd heb sicrhau lle yn un o gystadlaethau UEFA trwy orffen yn gyntaf, yn ail neu trwy ennill Cwpan Cymru yn cystadlu am le yng Nghynghrair Europa.

Bydd y pedwerydd detholyn yn chwarae'r pumed detholyn ar eu tomen eu hunain, gyda'r buddugwyr yn teithio i wynebu'r prif ddetholion mewn gêm gynderfynol. Bydd yr ail ddetholion yn herio'r trydydd detholiad yn y gêm gynderfynol arall gyda'r ddau dîm buddugol yn cwrdd mewn rownd derfynol er mwyn sicrhau pwy sy'n cael y lle olaf yn Ewrop.

Y Wasg[golygu]

BBC Cymru oedd yn berchen hawliau teledu a radio Uwch Gynghrair Cymru ers tymor cyntaf y gynghrair ym 1992 hyd at ddiwedd tymor 2008. Roedd uchafbwyntiau byr gemau'r dydd i'w gweld ar Wales on Saturday ar brynhawn Sadwrn ac ar Gôl (Cynhyrchiad BBC ar gyfer S4C) ar brynhawn Sul hyd at ddiwedd tymor 2004. Yn nhymor 2004 dechreuodd BBC Cymru gynhyrchu rhaglen Y Clwb Pêl-droed ar gyfer S4C yn dangos uchafbwyntiau gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Yn 2004/05 llwyddodd S4C i sicrhau hawliau Uwch Gynghrair Cymru gyda rhaglen Sgorio yn cymryd slot Y Clwb Pêl-droed i ddangos uchafbwyntiau ar nos Sadwrn yn ogystal â dangos gemau Cymru fel rhan o arlwy pêl-droed cyfandirol rhaglen Sgorio ar nos Lun. Yn 2010/11 penderfynodd S4C ddarlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru ar brynhawn Sadwrn yn hytrach na rhaglen o uchafbwyntiau.

BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales sydd â'r hawliau darlledu radio ar gyfer gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Nawdd[golygu]

Dyma restr o noddwyr Uwch Gynghrair Cymru ers sefydlu'r gynghrair:
1992: Konica Peter Llewellyn Cyf
1993–2001: Dim noddwr
2002–04: JT Hughes Mitsubishi
2004–06: Vauxhall Masterfit
2006–11: Cymdeithas Adeiladu y Principality
2011-2014: CorbettSports.com

Cysylltiadau Allanol[golygu]