C.P.D. Bae Colwyn
| C.P.D. Bae Colwyn | |||
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Bae Colwyn | ||
| Llysenw(au) | Y Gwylanod | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 1881 | ||
| Maes | Ffordd Llaneilian | ||
| Cynhwysedd | 2,500 | ||
| Cadeirydd | |||
| Rheolwr | |||
| Cynghrair | Cynghrair Uwch Gogledd Lloegr Adran Un Gogledd |
||
| 2009-2010 | 4ydd | ||
|
|||
Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn glwb Pêl-droed, sy'n chwarae yng Nghynghrair Unibond Lloegr, er eu bod yn glwb o Gymru. Maent yn chwarae ar Ffordd Llaneilian, Bae Colwyn.
Pan ffurfwyd Uwchgynghrair Cymru fe ymgeisiodd y Gymdeithas Bel-Droed roi hwb i'r Gynghrair drwy orfodi fod pob Clwb Cymreig (Heblaw am Casnewydd a'r 3 Proffesiynol) ymuno ag o. Gwrthododd Bae Colwyn, ymysg eraill, a rhaid oedd chwarae'u gemau 'cartref' yn Northwich ac Ellesmere Port. Ond ym Mis Ebrill 1995 fe enillwyd achos llys a olygodd eu bod yn cael dychwelyd i Ffordd Llanelilian.
Fe gyrrhaeddodd y Clwb ail-rownd Cwpan FA Lloegr yn 1995-96 cyn colli o 2-0 yn erbyn Blackpool. Wnaethon nhw hefyd gyrraedd Rownd yr 8 olaf Tlws Lloegr yn 1996-97 cyn colli i Stevenage Borough.
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol