Uwch Gynghrair Cosofo

Oddi ar Wicipedia
Superliga e Futbollit të Kosovë
GwladCosofo
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1945; 79 blynedd yn ôl (1945)
as Cynghrair Talaith Cosofo
1990; 34 blynedd yn ôl (1990)
as Cynghrair Cosofo Annibynnol
Tymor cyntaf1945 as Cynghrair Talaith Cosofo
1990–91 as Cynghrair Cosofo Annibynnol
Nifer o dimau12
Lefel ar byramid1
Disgyn iCynghrair Gyntaf Cosofo
CwpanauKosovar Cup
Kosovar Supercup
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolFeronikeli (3ydd teitl)
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauPrishtina (10 teitl)
Partner teleduSuperSport (gemau byw)
Radio Teledu Cosofo
GwefanGwefan Swyddogol
2019–20 Siwperlîg Cosofo Pêl-droed

Y Superliga e Futbollit të Kosovës yw Uwch Gynghrair Cosofo a elwir hefyd yn IPKO Superleague Kosovo (Albaneg: IPKO Superliga e Kosovës) am resymau noddi gydag IPKO. Trefnir y Superleague gan Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo ac, ar hyn o bryd, mae gan yr adran fformat 12 tîm. Mae'r clybiau'n chwarae ei gilydd deirgwaith yn ystod y tymor mewn amserlen 33 gêm. Ar ddiwedd y tymor, mae'r ddau dîm isaf yn yr adran yn cael eu disodli i'r ail haen, a elwir yn Gynghrair Gynfat Pêl-droed Cosofo.

Rhedodd y Superliga y tu allan i gydnabyddiaeth swyddogol FIFA ac UEFA tan i Cosofo gael ei dderbyn i'r ddau sefydliad, ar 3 Mai 2016.[1] Rhaid cofio bod mwyafrif pobl Cosofo yn Albaniaid ac yn siarad Albaneg ac y bu rhyfel annibyniaeth yn erbyn Serbia yn ystod yr 1990au gan arwain at anghytuno ryngwladol ar statws swyddogol y wladwriaeth annibynnol newydd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Timau y Superliga, tymor 2010-11
Gêm darbi Trepça 89 v Prishtina, Hydref 2011

Cyn yr Ail Ryfel Byd, yn ystod cyfnod Teyrnas Iwgoslafia, roedd timay o Cosofo yn cystadlu yng nghynghreiriau taleithiol Is-gymdeithas Bêl-droed Belgrâd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhwng 1941 a 1944, pan ddaeth y rhan fwyaf o'r rhanbarth yn rhan o Albania, chwaraeodd nifer o glybiau Cosofo yn system gynghrair Albania.

Yn 1945, ail-ymgorfforwyd Cosofo fewn i Serbia, o fewn Iwgoslafia Gomiwnyddol o dan yr unben, Tito. Mae gwreiddiau'r Superliga yn tarddu o 1945 pan ddaeth yn un o is-adrannau'r 5ed lefel yn system gynghrair pêl-droed Iwgoslafia. Casglodd y clybiau gorau o Dalaith Ymreolaethol Sosialaidd Cosofo ac eithrio'r clybiau hynny oedd yn cystadlu ar lefelau uwch.

Cwymp Iwgoslafia a Rhyfel Annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1981 a 1989, torrwyd ar draws y bencampwriaeth ranbarthol am resymau gwleidyddol, derbyniodd y bencampwriaeth y tîm a safodd cyn yr ymyrraeth ar reng 1 y tabl. Ym 1990 cynhaliwyd cynghrair cyfochrog heb ei gydnabod a oedd yn casglu clybiau ethnig pro-annibyniaeth Albaniaidd tan 1999. Cystadlodd y clybiau gorau yn y cyfamser yng nghynghreiriau oedd yn weddill o'r hen Iwgoslafia,sef, erbyn hynny (wedi annibyniaeth Slofenia, Croatia, Macedonia a'r heddwch oer yn Bosnia-Hertsegofina) oedd yn cynnwys dim ond Serbia a Montenegro. Yn y blynyddoedd 1998 a 1999, oherwydd Rhyfel Kosovo, ni chynhaliwyd gêm bêl-droed yn nhiriogaeth Kosovo. Dyfarnwyd teitl y bencampwriaeth ym 1998 o hyd i arweinydd y bencampwriaeth KF Besa.

Wedi annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Yn 1999, ar ôl Rhyfel Annibyniaeth Cosofo, ffurfiwyd system gynghrair Cosofaidd ar wahân. Roedd yn cynnwys y rhan fwyaf o glybiau o Cosofo ac eithrio'r rhai o Ogledd Cosofo Serbaidd a arhosodd yn system gynghrair pêl-droed Serbia.

Hyd yn hyn, mae'r rhan fwyaf o deitlau, gan gynnwys y bencampwriaeth ranbarthol ar y pryd, wedi ennill gyda 17 o bencampwriaethau FC Prishtina. Hyd yma enillodd 19 o dimau gwahanol yr hen bencampwriaeth ranbarthol a phencampwriaeth genedlaethol y Superliga, er nad oedd yn gynghrair o'r radd flaenaf tan 1999.[2]

Ers 2000 mae'r gystadleuaeth wedi bod yn rhedeg yn barhaus, ac erbyn 2017, ar ôl i Kosovo ennill aelodaeth yn FIFA a UEFA, wedi dechrau bod yn gynghrair genedlaethol Cosofo yn darparu clybiau ar gyfer twrnameintiau rhyngwladol.

Pencampwyr y Superliga[golygu | golygu cod]

Pencampwyr y gynghrair ers i'r Superliga ddod yn brif ac unig uwch gynghrair Cosofo.

Clwb Ennill Blynyddoedd
FC Prishtina 10 1991–92, 1995–96, 1996–97, 1999–00, 2000–01, 2003–04, 2007–08, 2008–09, 2011–12, 2012–13
KF Besa Pejë 3 2004–05, 2005–06, 2006–07
K.F. Feronikeli 2014–15, 2015–16, 2018–19
KF Trepça 2 2009–10
FC Drita 2002–03, 2017–18
KF Fushë Kosova 1 1990–91
KF Dukagjini] 1993–94
KF Liria 1994–95
KF Besiana 2001–02
KF Hysi 2010–11
KF Vushtrria 2013–14
KF Trepça'89 2016–17

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Football Federation of Kosovo joins UEFA". UEFA. 3 May 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-16. Cyrchwyd 2019-06-30.
  2. Archifwyd [Date missing], at ffk-kosova.com Error: unknown archive URL
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.