C.P.D. Tref Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Tref Caernarfon
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon
Llysenw(au) Y Caneris
Sefydlwyd 1937
Maes Yr Ofal
Cadeirydd Paul Evans
Rheolwr Huw Griffiths/Sean Eardley
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2022/23 9.

Clwb pêl-droed o dref Caernarfon, Gwynedd ydy Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon (Saesneg: Caernarfon Town Football Club) sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef prif adran bêl-droed Cymru.

Pêl-droed yng Nghaernarfon[golygu | golygu cod]

Roedd clwb pêl-droed yn bodoli yng Nghaernarfon yn nyddiau cynnar y gamp yng Nghymru a chwaraeodd clwb o dref Caernarfon yn rownd gyntaf cystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877 gan golli yn erbyn clwb o Fangor[1] ac ym 1888, clwb o Gaernarfon oedd y clwb Cymreig cyntaf i gystadlu yng Nghwpan FA Lloegr pan gollodd Caernarvon Wanderers 1-10 yn erbyn Stoke City[2].

Llwyddodd clwb Carnarvon Ironopolis, oedd yn chwarae yng Nghynghrair Arfordir Gogledd Cymru[3] i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru ym 1900[4] ac ym 1902[5].

Yn dilyn ffrae gyda'r gynghrair, aeth Ironoplois i'r wal ym 1903 gyda rhai o'r chwaraewyr yn sefydlu clwb Carnarvon Colts gydag eraill yn ymuno â Carnarvon RWF (Royal Welsh Fusiliers)[6]. Roedd y ddau glwb yn chwarae yng Nghynghrair Sir Caernarfon a'r Cylch ac yn chwarae eu gemau cartref ar yr Oval[7].

Ym 1906 unodd y clybiau er mwyn ffurfio Carnarvon United[6] ac ym 1909 llwyddodd y clwb newydd i ennill Cwpan Amatur Cymru[8].

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfiwyd Carnarvon Athletic fel tîm proffesiynol a llwyddodd y clwb i ennill Cynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1926-27 a 1929-30[6] a chyrraedd Ail Rownd Cwpan FA Lloegr ym 1929-30 cyn colli ar ôl gêm ail gyfle yn erbyn Bournemouth[2] ond erbyn 1930 roedd y clwb wedi mynd i'r wal[6].

Hanes[golygu | golygu cod]

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd y clwb presennol, ei ffurfio ym 1937 gan grŵp o gefnogwyr pêl-droed oedd am weld clwb yn dychwelyd i'r dref a cafodd y clwb newydd ei le yng Nghynghrair Cymru (Y Gogledd)[9]. Ar ôl ennill y Gynghrair ym 1977-78[10] a 1978-79[11] cafodd y clwb ganiatad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ymuno â Chynghrair Sir Gaerhirfryn (Saesneg: Lancashire Combination League) ym 1980-81[12].

Chwarae yn Lloegr[golygu | golygu cod]

Ar ôl ennill Cynghrair Sir Gaerhirfryn ym 1981-82 cafodd Caernarfon eu hethol yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr (Saesneg: Northern Premier League) ar gyfer tymor 1984-85 gan ymuno â Bangor a'r Rhyl fel cynrychiolwyr Cymreig yn y Gynghrair[13]. Ym 1986-87 gorffennodd Caernarfon yn drydydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr[13] yn ogystal â chyrraedd Trydedd Rownd Cwpan FA Lloegr gyda buddugoliaethau dros Stockport County a Chaerfrog cyn colli yn erbyn Barnsley mewn gêm ail chwarae[6].

Wedi sefydlu Cynghrair Cymru ym 1992 ceisodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru orfodi'r clybiau oedd yn chwarae yng Nghynghreiriau Lloegr i ddychwelyd i Gymru[14]. Gwrthododd Caernarfon, ynghyd â Bae Colwyn, Bangor, Casnewydd, CPD Tref Merthyr, Y Barri, Y Drenewydd ac Y Rhyl gan apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn dilyn yr apêl ym mis Chwefror 1992, cafodd Merthyr yr hawl i barhau yng nghynghreiriau Lloegr gan eu bod un rheng yn is na'r Gynghrair Bêl-droed ond gwrthodwyd yr hawl i'r saith clwb arall rhag chwarae gemau yng nghynghreiriau Lloegr yng Nghymru[14][15]. Penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ddychwelyd i Gymru[14] ond penderfynodd Caernarfon symud i chwarae eu gemau cartref 105 o filltiroedd o'r dref yn Curzon Ashton ger Manceinion[15].

Ym mis Mai 1994 penderfynodd Caernarfon, Bae Colwyn a Chasnewyd fynd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i'r Uchel Lys a cafodd y tri chlwb ddychwelyd i chwarae eu gemau cartref yng Nghymru ond er ennill eu hachos ym mis Gorffennaf 1995 penderfynodd Caernarfon ymddiswyddo o Gynghrair Undebol Gogledd Lloegr a dychwelyd i chwarae ym mhyramid Cymru[15].

Dychwelyd i Gymru[golygu | golygu cod]

Ar ôl dychwelyd i Gymru cafodd Caernarfon eu lle yng Nghynghrair Cymru ar gyfer tymor 1995-96 gan orffen y tymor yn y 6ed safle[16]. Ym 1999 dioddefodd y clwb drafferthion arianol enbyd welodd y garfan gyfan o chwaraewyr yn gadael y clwb a gorffennodd y clwb ar waelod y gynghrair a disgyn i'r Gynghrair Undebol[6].

Er camu yn syth yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru y tymor canlynol, roedd mwy o drafferthion arianol i ddod[6] ac yn 2008-09 disgynodd y clwb yn ôl i'r Gynghrair Undebol gyda gwaeth i ddod y tymor canlynol wrh i Gaernarfon ddisgyn i drydedd adran y pyramid Cymreig a Chynghrair Undebol Arfordir y Gogledd[17].

Yn 2012-13 llwyddodd Caernarfon i sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol wrth orffen y tymor fel pencampwyr Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd[18].

Academi[golygu | golygu cod]

Ail-ffurfiwyd academi'r clwb yn 2013 gan Haydn Jones. Derbyniodd yr academi statws Academi Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer tymor 2020/2021.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru
    • Enillwyr: 1977-78, 2012-13
  • Cynghrair Undebol Sir Gaerhirfryn
    • Pencampwyr: 1981-82

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Football Association of Wales: Bangor v Carnarvon". The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality. t. 4. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "FA Cup Past Results". The FA. thefa.com.
  3. "North Wales Coast League 1901-02". Welsh Football Data Archive.
  4. "Welsh Cup 1899-1900". Welsh Football Data Archive.
  5. "Welsh Cup 1901-02". Welsh Football Data Archive.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 "History". Caernarfon Town.
  7. "Caernarfonshire & District League Tables 1904-05". Welsh Football Data Archive.
  8. "Llandudno Advertiser and List of Visitors". Welsh Newspapers Online. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  9. "Welsh League (North) 1937-38". Welsh Football Data.
  10. "Welsh League (North) 1977-78". Welsh Football Data.
  11. "Welsh League (North) 1977-78". Welsh Football Data.
  12. "Lancashire Combination". rsssf.com.
  13. 13.0 13.1 "Northern Premier League". rsssf.com.
  14. 14.0 14.1 14.2 "Teithio'r Tymhorau 1992-93". Sgorio. s4c.cymru.
  15. 15.0 15.1 15.2 Vic Duke; Liz Crolley (2004). Football, Nationality and the State. Routledge. ISBN 1317886720.
  16. "League Tables 1995-96". WelshPremier.co.uk. FAW.[dolen marw]
  17. "Cymru Alliance League 2009-10". Welsh Football Data Archive.
  18. "Welsh Alliance League Tables 2012-13". Welsh Alliance League.
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd