Eglwys Sant Ffraid, Llansanffraid Glan Conwy

Oddi ar Wicipedia
Eglwys St Ffraid
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr13.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.268363°N 3.794768°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iFfraid Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Eglwys Sant Ffraid yn lle o addoliad sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru, yn Llansanffraid Glan Conwy. Mae'n perthyn i Ddeoniaeth Llanrwst a'r Rhos yn Esgobaeth Llanelwy.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Honnir bod plwyf ac Eglwys Llansanffraid Glan Conwy wedi eu sefydlu ar dir a chyflwynwyd gan Maelgwn Gwynedd.[1] Roedd Maelgwn yn frenin ar Wynedd o tua 520 i 547.[2] Gan fod hanes yr eglwys yn honni ei sefydlu yn y 5g mae'n rhaid (os yw'r honiad yn gywir) bod cell grefyddol wedi bodoli yn yr ardal cyn sefydlu'r plwyf gan Maelgwn.

Achos dewiniaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1594 cynhaliwyd ymchwiliad yn yr Eglwys i ganfod os oedd Gwen ferch Elis, gwehydd o Landrillo yn Rhos yn wrach. Un o Landyrnog yn wreiddiol oedd Gwen fu hefyd yn fyw am gyfnodau yn yr Iâl a Llaneilian yn Rhos cyn symud i Landrillo wedi priod ei thrydydd ŵr. Roedd gan Gwen enw da fel dynes gyfrin oedd yn gwybod sut i ddefnyddio llysiau a defodau i wella pob math o anhwylderau ar bobl ac anifeiliaid. Wedi symud i Landrillo cafodd gais gan Jane Conwy o Neuadd y Marl, cyfagos, am gymorth. Wrth drin Jane, ddysgodd Gwen am y berthynas all briodasol roedd hi'n cael efo Thomas Mostyn o'r Gloddaeth. Er mwyn sicrhau nad oedd hi'n rhannu'r gyfrinach fe'i cyhuddwyd o fod yn wrach. Cafodd ei holi gan Esgob Llanelwy a phenderfynodd yr Esgob bod digon o dystiolaeth yn ei herbyn i gynnal ymchwiliad dewiniaeth arni. Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn Eglwys San Ffraid gan reithgor o bum dyn a dwy ddynes. Canfyddiad y rheithgor oedd ei bod yn wrach a bod hi wedi defnyddio ei doniau dieflig i ladd dyn a gyrru plentyn yn orffwyll. Yn dilyn y canfyddiad rhoddwyd Gwen ar brawf yn llys Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Cafwyd hi'n euog a'i dedfrydu i'w chrogi.[3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd yr eglwys bresennol rhwng 1839 a 1841. Dymchwelwyd yr adeilad blaenorol bron yn llwyr i wneud lle i'r adeilad cyfredol. Mae ambell atgof o'r cyn adeilad yn bresennol yn yr adeilad newydd gan gynnwys dwy ffenestr wydr lliw o'r 15 ganrif, bedyddfaen o'r 17 ganrif a cherrig crib calchfaen o'r Oesoedd Canol yn y to[4].

Mae'r eglwys wedi ei adeiladu yn yr arddull Romanésg ac fe'i dyluniwyd gan John Welch. Mae wedi ei hadeiladu o garreg rwbel o dan do llechi llethr isel. Mae'n cynnwys corff a changell gyda dau dŵr bach ar y talcen gorllewinol sydd wedi'i gwahanu gan borth. Ar y wal hir mae estyniad â thalcen. Mae'n cael ei goleuo trwy ffenestri fflaim. Mae'r tu mewn yn eang a heb ystlys. Cafodd yr adeilad ei hadfer rhwng 1907 a 1908 gan Hoare & Wheeler. Yn ogystal â'r gwydrau lliw hynafol mae yna hefyd wydr lliw gan Clutterbuck (1846) ac Edward Voore (1943). Mae'r Eglwys yn adeilad rhestredig gradd II.[5]

Nawddsant[golygu | golygu cod]

Nawddsant yr Eglwys yw'r Santes Ffraid. Dywedi'r bod Ffraid wedi hwylio ar dywarchen o'r Iwerddon gan lanio yn aber yr Afon Conwy a sefydlu cymuned Gristionogol yno. Yn ôl traddodiad ganed Ffraid yn Faughart ger Dundalk, Swydd Louth. Roedd ei thad, Dubhthach, yn bagan, tra'r oedd ei mam, Brocca, yn gaethferch Bictaidd oedd wedi ei bedyddio gan Sant Padrig.

Cynhelir ei gŵyl mabsant ar 1 Chwefror. Yn ddiweddar mae aelodau'r eglwys wedi ail adfer hen draddodiad o addurno'r eglwys gyda brwyn o'r Afon Conwy a chynnal pryd o fwyd i'r plwyfolion ar ddydd gŵyl San Ffraid.[6]

Addoliad[golygu | golygu cod]

Cynhelir oedfaon rheolaidd yn yr eglwys yn y Saesneg a chynhelir gwasanaethau Cymraeg misol ar y cyd ag Eglwys Sant Cystennin, Mochdre gyda'r gwasanaethau yn y naill eglwys a'r llall pob yn ail.[4]

Tŷ'r Eglwys[golygu | golygu cod]

Tŷ'r Eglwys

Mae Tŷ'r Eglwys yn neuadd gymunedol sy'n eiddo i'r eglwys. Mae'n sefyll yn union ar draws y ffordd i'r addoldy. Defnyddir y tŷ ar gyfer gweithgareddau eglwysig ac ar gyfer gweithgareddau cymunedol megis cyngherddau, dramâu a phantomeim blynyddol.[4] Adeiladwyd y tŷ ym 1932 gan S Colwyn-Ffoulkes, pensaer, Bae Colwyn. Mae'n adeilad rhestredig gradd II.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Yr Eglwys yng Nghymru St Ffraid, Llansanffraid Glan Conwy Archifwyd 2017-06-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Medi 2018
  2. Charles-Edwards, T. M., Wales and the Britons, 350-1064, Oxford University Press, 2013, tud. 85-87
  3. Gwefan yr Eglwys Gwen Ferch Elis (1542-1594) Archifwyd 2019-08-21 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Medi 2018
  4. 4.0 4.1 4.2 Aberconwy Church - St Ffraid's, Glan Conwy Archifwyd 2018-08-13 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Medi 2018
  5. Coflein Eglwys St Ffraid, Llansanffraid Glan Conwy adalwyd 13 Medi 2018
  6. Gwefan yr Eglwys Dydd Gŵyl Ffraid Archifwyd 2017-06-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Medi 2018
  7. British Listed Buildings Church House A Grade II Listed Building in Llansanffraid Glan Conwy, Conwy adalwyd 13 Medi 2018