Esgobaeth Llanelwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais yr esgobaeth

Esgobaeth Llanelwy yw un o chwech esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac un o bedair esgobaeth hanesyddol Cymru. Mae'r esgobaeth bresennol yn cynnwys Sir Ddinbych a Sir y Fflint, rhai rhannau o sir Conwy a Powys, ac ychydig o sir Gwynedd. Mae'r gadeirlan a'r eglwys gadeiriol yn Llanelwy, sedd Esgob Llanelwy.

Ychydig iawn a wyddys am hanes cynnar yr esgobaeth. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd yr esgobaeth gan Sant Cyndeyrn, a elwir hefyd yn Kentigern a Mungo, tua chanol y 6ed ganrif. Yr unig berson arall a enwir fel esgob Llanelwy cyn cyfnod y Normaniaid yw Sant Asaph. Fel yn achos gweddill esgobaethau cynnar Cymru, roedd esgobaeth Llanelwy yn yr Oesoedd Canol Cynnar yn uned lai diffiniedig o ran ei thiriogaeth a'i threfn eglwysig nag yn ddiweddarach. Pennaeth ysbrydol ar nifer o glasau ac eglwysi lled-annibynnol oedd yr esgob.

Daeth newid gyda dyfodiad y Normaniaid i Gaer a gogledd Cymru. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at Esgobaeth Llanelwy, ond heb ei henwi'n uniongyrchol, mewn dogfen eglwysig sy'n dyddio i 1125. Penodwyd y Normaniad Gilbert yn esgob Llanelwy tua'r flwyddyn 1141 (neu 1143). Cafodd ei olynu gan Sieffre o Fynwy yn 1152.

O ddiwedd y 12fed ganrif ymlaen, sefydlwyd sawl tŷ crefydd yn yr esgobaeth, yn cynnwys abatai Dinas Basing, Glyn Egwestl, ac Ystrad Marchell, ynghyd â lleiandy Llanllugan.

Pan ddiffinwyd tiriogaeth yr esgobaeth yn y 12fed ganrif, roedd cantref Dyffryn Clwyd yn perthyn i Esgobaeth Bangor, fel ynys yng nghanol Esgobaeth Llanelwy. Erbyn hyn mae'r "ynys" honno wedi diflannu ac mae'r esgobaeth yn ymestyn o lan afon Conwy yn y gorllewin i afon Dyfrdwy yn y dwyrain.

Ffynonellau[golygu]

  • John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1992)
  • Michael Richter, Giraldus Cambrensis (Aberystwyth, 1976)

Dolenni allanol[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Egobaethau cymru.gif

Llanelwy