Rheilffordd Padarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sied drenau Rheilffordd Padarn, Penscoins, 2005
Map o Reilffordd Padarn

Roedd Rheilffordd Padarn yn reilffordd gul yng Ngwynedd, oedd yn cael ei defnyddio i gario llechi o Chwarel Dinorwig ger Llanberis i'r porthladd yn Y Felinheli i'w hallforio. Rhedai'r rheilffordd o weithdai'r chwarel yn y Gilfach Ddu.

Agorwyd y lein fel tramffordd gyda'r wageni yn cael eu tynnu gan geffylau yn 1824. Yn 1843 fe'i gwnaed yn rheilffordd, y rheilffordd chwarel gyntaf i ddefnyddio trenau ager. Roedd 4 troedfedd rhwng y cledrau, sy'n bur anarferol. Nodwedd anarferol arall oedd fod rheiliau culach (1 droedfedd 10.75 modfedd) wedi eu gosod ar y wageni, fel bod y wageni llechi o'r chwarel yn medru cael eu cario ar y wageni hyn, bedair wagen ar y tro.

Caeodd y rheilffordd yn 1961. Ail-agorwyd rhan o'r trac i gario twristiaid ar hyd glan Llyn Padarn.

Trenau[golygu]

Enw Adeiladydd Math Dyddiad Rhif gwaith Nodiadau
Fire Queen Horlock and Company 0-4-0 tender 1848 Yn awr yn amgueddfa Castell Penrhyn
Jenny Lind Horlock and Company 0-4-0 tender 1848 Scrapiwyd yn yr 1880au.
Dinorwic Hunslet 0-6-0T 1882 302 Scrapiwyd 1963
Pandora Hunslet 0-6-0T 1886 410 Ail-enwyd yn Amalthea yn 1909. Scrapiwyd 1963
Velinheli Hunslet 0-6-0T 1895 631 Scrapiwyd 1963
Hardy Hardy Motors Ltd. 4wPM 1925 954 Scrapiwyd 1963