Baruch Spinoza
Oddi ar Wicipedia
Athronydd Iseldiraidd o dras Iddewig-Portiwgëaidd oedd Baruch neu Benedict de Spinoza (Hebraeg: ברוך שפינוזה, Portiwgëg: Bento de Espinosa, Lladin: Benedictus de Spinoza) (24 Tachwedd, 1632 – 21 Chwefror, 1677). Arddangosodd fedr gwyddonol sylweddol, ond ni sylweddolwyd ehangder a phwysigrwydd ei waith tan ar ôl ei farwolaeth. Erbyn heddiw, fe'i ystyrir yn un o resymegwyr athronyddol mwyaf yr 17eg ganrif, gan osod y sylfeini ar gyfer Yr Oleuedigaeth yn y 18fed ganrif a beirniadaeth fodern o'r Beibl.