Niccolò Machiavelli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Niccolò Machiavelli
athronydd gwleidyddol
Santi di Tito - Niccolo Machiavelli's portrait headcrop.jpg
Geni:
 
3 Mai 1469
   Fflorens, Yr Eidal
Marw:
 
21 Mehefin 1527
   Fflorens, Yr Eidal

Diplomydd, athronydd gwleidyddol, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd Niccolò Machiavelli (14691527). Roedd yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn yn hanes yr Eidal. Nid oedd yr Eidal yn unedig ar y pryd, yn hytrach wedi ei rhannu i fyny i lawer o dywysogaethau megis Fflorens, Fenis a Rhufain. Roedd yn gyfnod o frwydro rhwng y Tywysogaethau, Sbaen a Ffrainc.

Hanes Machiavelli a Fflorens o 1494 ymlaen[golygu]

  • 1494 – Teulu'r Medici yn colli grym a Girolamo Savonarola yn arwain y weriniaeth rydd. Machiavelli yn cael swydd gyhoeddus yn y lywodraeth newydd.
  • 1498 – Savonarola yn colli cefnogaeth y bobl ac yn cael ei ddienyddio ond y weriniaeth yn parhau.
  • 1500 – Danfonwyd Machiavelli i drafod y rhyfel yn erbyn Pisa gyda Louis XII.
  • 1503 – Danfonwyd Machiavelli i arolygu yr etholiad i ganfod olynydd i'r Pab Pius III.
  • 1512 – Y Medici yn dod yn ôl i rym a'r weriniaeth yn syrthio. Machiavelli yn colli ei swydd gyhoeddus. Fe’u hamheuwyd gan y Medici o gynllwynio yn eu herbyn felly fe’u carcharwyd ac fe’u gwestiynwyd drwy boenydio.
  • 1527 – Fe daflwyd y Medici allan o Fflorens unwaith eto gan y blaid boblogaidd. Rhuthrodd Machiavelli yn ôl i Fflorens yn y gobaith o gael ei swydd gyhoeddus yn ôl ond yn fuan ar ôl cyrraedd Fflorens fe aeth yn sâl a fu farw'r flwyddyn honno.
Niccolò Machiavelli

Y Tywysog[golygu]

Rhyw fath o lawlyfr i dywysog yn dangos sut i lwyddo yw'r gwaith. Yn bennaf yn trafod yng nghyd-destun tywysogaethau yn hytrach nag yn nhermau gwladwriaethau. Safbwynt yr un sydd mewn grym sydd i'w weld yn Il Principe ('Y Tywysog') - bod yn gymorth i'r arweinydd yw bwriad Machiavelli.

Y Dywysogaeth[golygu]

Dadleua mai prif sylfaen unrhyw dywysogaeth ydy cyfreithiau ac arfau da. Cred ei bod hi'n amhosib cael cyfreithiau da heb arfau da. Felly rhaid canolbwyntio ar sut i gael arfau da. Nid ydy gwladwriaeth mynd i oroesi heb fyddin gref.

Syniadau gwleidyddol[golygu]

Ym mhennod 18 ceir esiampl o werthoedd gwleidyddol Machiavelli. Yna ceir trafodaeth ar a ddylai gwleidyddion gadw ei gair, mae'n dod i gasgliad nad oes rhaid. Noda ei bod hi'n ddoeth iddo gadw at ei air ond beth sy'n bwysig ydy iddo ddefnyddio'r grym sydd dan ei awdurdod i gadw trefn. Mae barn Machiavelli ar natur ddynol yn isel iawn. Nid oes rhaid i'r tywysog gadw at ei air oherwydd bod dynion yn wael ac na wnânt hwythau gadw at eu gair chwaith.

Yr Arweinydd[golygu]

Cred Machiavelli fod rhaid i'r tywysog wneud mwy na phlesio ei bobl yn unig i aros mewn grym. Noda ei bod hi'n well i'r arweinydd gael ei ofni yn hytrach na'u garu. Dadleua fod ofn yn creu mwy o deyrngarwch; mae modd torri cysylltiad cariad os ydyw o fantais i ddyn, ond mae ofn yn cryfhau oherwydd yr ofn o gosb - tacteg effeithiol. Ni ddylai'r tywysog boeni os cai enw gwael am fod yn greulon. Wedi dweud hynny ni ddylid defnyddio grym rhywsut rhywsut, rhaid ei gadw at ddefnydd effeithiol; ei ddefnyddio o dro i dro er mwyn atgoffa pawb gan bwy mae'r awdurdod.

Hanes – Virtu a Fortuna[golygu]

Mae syniadau Machiavelli am hanes yn troi o amgylch Virtu a Fortuna

  • Virtu = Rhinwedd/Dawn
  • Fortuna = Ffawd/Lwc

Cred Machiavelli fod y ddau ffactor yn cael ei amlygu mewn hanes. Cred Awstin o Hippo mae dim ond Fortuna sydd ar waith, ond cred Machiavelli fod ewyllys rhydd dyn (Virtu) yn effeithio 50/50 gyda ffawd (fortuna). Cred Machiavelli fod gan yr arweinydd ddawn a bod modd iddo droi sefyllfaoedd (a hanes) i'w fantais trwy virtu. Noda hefyd fod fortuna yn ffafrio dynion ifanc oherwydd eu bod nhw llai ansicr yn eu gweithredoedd - felly cred Machiavelli fod arweinydd ifanc yn arweinydd effeithiol.

Uno'r Eidal[golygu]

Ar dudalennau Y Tywysog mae Macchiavelli yn sôn am uno'r Eidal. Mae'n erfyn ar i'r holl Dywysogion arwain yr Eidal allan o'r sefyllfa roedd hi ynddi.

Dolenni allanol[golygu]