Heddychiaeth

Oddi ar Wicipedia
Apotheosis Rhyfel (1871) gan Vasily Vereshchagin (Oriel Tretyakov, Moscfa)
Diwrnod Rhyngwladol Gweddi dros Heddwch, Assisi, Yr Eidal, 27 Medi 2011

Egwyddor neu agwedd meddwl yw heddychiaeth sy'n gwrthod ac yn condemnio rhyfel a grym milwrol dan unrhyw amodau. Enw arall arni yw pasiffistiaeth. Mae rhywun sy'n credu mewn heddychiaeth yn heddychwr. Yn hytrach na rhyfela, cred yr heddychwr mai trafod a chyfslafaredd yw'r ffordd i ddatrys anghydfod ar bob lefel, boed hynny rhwng gwledydd neu unigolion.

Hen bennill[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o hen benillion sy'n sôn am gryfder heddychiaeth:

Da am dda sy'n dra rhesymol,
Drwg am ddrwg sy'n anghristnogol,
Drwg am dda sydd yn gythreulig
Da am ddrwg sy'n fendigedig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.