George Santayana

Oddi ar Wicipedia
George Santayana
Darluniad o George Santayana gan Samuel Johnson Woolf, a ymddangosodd ar glawr cylchgrawn Time ym 1936.
FfugenwGeorge Santayana Edit this on Wikidata
GanwydJorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás Edit this on Wikidata
16 Rhagfyr 1863 Edit this on Wikidata
Madrid, San Bernardo street Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1952 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylÁvila, Beacon Street Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadAgustín Ruiz de Santayana Edit this on Wikidata
MamJosefina Borrás Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd Sbaenaidd a nofelydd, bardd, ac ysgrifwr yn yr iaith Saesneg oedd George Santayana (Jorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás; 16 Rhagfyr 186326 Medi 1952) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at estheteg, athroniaeth ddamcaniaethol, a beirniadaeth lenyddol. Ganed ef yn Sbaen, a threuliodd ran fawr o'i oes yn Unol Daleithiau America, gan gynnwys y cyfnod o 1889 i 1912 yn darlithio ar athroniaeth ym Mhrifysgol Harvard. Wedi hynny, bu'n byw yn Ewrop, yn bennaf yn Lloegr, Ffrainc a'r Eidal.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Jorge Agustín Nicolás Ruiz de Santayana y Borrás ym Madrid, Teyrnas Sbaen, ar 16 Rhagfyr 1863, a'r Sbaeneg oedd ei famiaith. Aeth i fyw gyda'i fam yn Boston, Massachusetts, ym 1872, ac yno dechreuai ddysgu'r iaith Saesneg. Byddai'n byw ac yn gweithio yn Lloegr Newydd am y ddeugain mlynedd nesaf. Serch hynny, ni fyddai'n derbyn dinasyddiaeth Americanaidd, a byddai'n meddu ar genedligrwydd Sbaenaidd yn unig trwy gydol ei oes. Er gwaethaf, daeth i ystyried ei hunan yn Americanwr, ac ysgrifennai drwy gyfrwng yr iaith Saesneg yn unig.

Mynychodd Ysgol Ladin Boston cyn iddo gael ei dderbyn i Goleg Harvard. Graddiodd gyda'r clod uchaf ym 1886, ac aeth i astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Friedrich Wilhelm, Berlin, am ddwy flynedd cyn dychwelyd i Harvard i gyflawni ei draethawd doethurol dan diwtoriaeth William James.

Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth, ymunodd Santayana â chyfadran athroniaeth Harvard ym 1889. Ar droad y ganrif, yr amserau a elwir "yr Oes Euraid" yn hanes yr Unol Daleithiau, daeth yr Athro Santayana i'r amlwg fel un o dri gŵr doeth Harvard ym maes athroniaeth, ynghyd â'i hen diwtor, y Pragmatydd William James, a Josiah Royce, sefydlwr delfrydiaeth Americanaidd. Ymhlith ei fyfyrwyr bu Robert Frost, Gertrude Stein, Felix Frankfurter, a T. S. Eliot. Penodwyd Santayana yn athro llawn gan y brifysgol ym 1907.

Teithiodd yn aml i'w gyfandir genedigol, gan fwrw'r haf yn Sbaen gyda'i dad, ac ymwelodd hefyd â Lloegr, Ffrainc, a'r Eidal. Astudiodd yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, o 1896 i 1897, a threuliodd un o'i gyfnodau sabothol yn y Sorbonne ym Mharis.

Ym 1912, ar un o'i deithiau Ewrop, bu farw ei fam, ac anfonodd neges o'i ymddiswyddo i Brifysgol Harvard. Ni fyddai byth yn dychwelyd i'r Unol Daleithiau, er gwaethaf cynigion mynych gan Harvard i'w ddenu yn ôl.[1] Ymgartrefodd yn Lloegr, a threuliodd gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18) yn Rhydychen.

Aeth i Rufain ym 1924 ac yno y bu hyd at ddiwedd ei oes. Fe wnaeth athroniaeth Santayana alluogi iddo dderbyn rhyfel mawr arall yn dawel ac yn bwyllog, a phenderfynodd fyw o'r neilltu. Adlewyrchir ei feudwyaeth yn ei ysgrifeniadau ar ôl dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, sydd yn ymdrin â materion ysbrydol a materol trwy ddatgysylltiad moesol. Cymerodd ystafelloedd mewn cartref nyrsio Catholig, ac yno ysgrifennodd ei hunangofiant, Persons and Places, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol (1944, 1945, a 1953). Bu farw George Santayana, yn 88 oed, ar 26 Medi 1952. Fe'i claddwyd, yn ôl ei ddymuniadau, ym mhantheon Sbaenaidd y fynwent Gatholig yn y Campo Verano.

Ffuglen a barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Casgliad o sonedau a cherddi eraill oedd llyfr cyntaf Santayana, Sonnets and Other Verses, a gyhoeddwyd ym 1894. Ei nofel fwyaf poblogaidd yw The Last Puritan (1936).

Athroniaeth[golygu | golygu cod]

Llyfr ysgolheigaidd cyntaf Santayana oedd Sense of Beauty (1896), cyfrol ar bwnc estheteg.

Ffurf ar naturiolaeth yw athroniaeth Santayana, a dylanwadwyd yn gryf arni gan Bragmatiaeth ei gyfoeswr, William James. Pwysleisiai natur fiolegol y meddwl yn ogystal â'i alluoedd creadigol a rhesymegol. Roedd yn sgeptigol ynglŷn â phrofi bodolaeth mater, ac awgrymai bod credoau bodau dynol yn deillio o "ffydd anifeilaidd". Derbyniai hefyd fodolaeth haniaethau cyffredinol neu hanfodion, cysyniad metaffisegol yn debyg i ddamcaniaeth Platon o "ffurfiau". Cynhwysir ei syniadau athronyddol yn The Life of Reason (pum cyfrol, 1905–06), Scepticism and Animal Faith (1923), The Realm of Essence (1927), The Realm of Matter (1938), a The Realm of Spirit (1940).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) George Santayana. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • D. Cory, Santayana: The Later Years (1963).