Hanes yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
George Washington, Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau

Dechreua hanes yr Unol Daleithiau gyda Rhyfel Annibyniaeth America, a elwir hefyd y Chwyldro Americanaidd, rhwng byddin Prydain Fawr a'r 13 talaith yng Ngogledd America oedd wedi gwneud cynghrair a'i gilydd i hawlio annibyniaeth. Dechreuodd y rhyfel yn 1775, pan gymerodd y gwrthryfelwyr feddiant o lywodraeth pob un o'r tair talaith ar ddeg. Yn 1776, cyhoeddasant eu hannibyniaeth gyda Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Yn 1777, llwyddodd y gwrthryfelwyr i gymeryd byddin Brydeinig yn garcharorion ym Mrwydr Saratoga, ac o ganlyniad, ymunodd Ffrainc a'r rhyfel at ochr y gwrthryfelwyr yn gynnar yn 1778.

Yn dilyn buddugoliaeth llynges Ffrainc dros lynges Prydain ym Mrwydr y Chesapeake, bu raid i fyddin Brydeinig arall ildio i'r gwrthryfelwyr yn Yorktown yn 1781. Diweddwyd y rhyfel gan Gytundeb Paris yn 1783, gyda'r llywodraeth Brydeinig yn derbyn annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Daeth George Washington, oedd wedi bod yn un o brif gadfridogion y gwrthryfelwyr yn ystod y rhyfel, yn Arlywydd cyntaf y wlad.

Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861 - 1865) rhwng llywodraeth yr Unol Daleithiau ac unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.

Abraham Lincoln

Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi.

Erbyn 1864 yr oedd y diwedd yn nesau, wrth i fanteision yr Undeb o ran poblogaeth fwy ac ecomomi gryfach ddechrau cael effaith. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Yn 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomatox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.

Dyddiadau Pwysig[golygu]