Christopher Columbus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Christopher Columbus
fforiwr
CristobalColon.jpg
Llun damcaniaethol
Geni:
 
1451
   Genoa, yr Eidal
Marw:
 
20 Mai 1506
   Valladolid, Sbaen

Roedd Christopher Columbus (1451 - 20 Mai 1506) yn fforiwr o Sbaen. Dywed rhai mai ef oedd y cyntaf i ddarganfod America, ond mae hwn yn bwnc llosg. Hwyliodd y Môr Iwerydd er mwyn darganfod ffordd fer i Asia. Meddyliodd mai dim ond dŵr oedd rhwng ef a phen ei daith, felly pan laniodd ar ynysoedd y Caribî, meddyliodd ei fod wedi cyrraedd Asia. Credodd hyn hyd ddiwedd ei oes.

Cafodd Christopher Columbus ei eni yn 1451 yn Genoa yn yr Eidal i rieni o Sbaen. Priododd yn y flwyddyn 1479. Bu farw ei wraig Dona Felipa ar ol genedigaeth ei mab.

Roedd gan Christopher Columbus ddau frawd. Gwehydd oedd ei dad. Pan oedd Columbus yn hŷn bu'n helpu ei dad yn ei waith. Nid oedd ganddo lawer o addysg. Pan oedd Columbus yn ddyn dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu.

Credai Columbus bod y byd yn grwn ac nid yn fflat. Ceisiodd brofi ei fod yn wir am 7 mlynedd. Roedd Columbus o hyd eisiau mynd ar y môr. Credai ei fod am ddarganfod India wrth hwylio ir Gorllewin.

Bu farw Christopher Columbus yn y flwyddyn 1506, ar y 20ed o Fai, yn Valladolid yn Sbaen.

Gweler hefyd[golygu]

  • Ffair y Byd Chicago, 1893 (World's Columbian Exposition), a drefnwyd i ddathlu 400 mlwyddiant glanio Columbus yn yr Amerig.
Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.