Siocled

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siocled

Bwyd o goco a siwgr ydy siocled. Mae siocled yn frown fel arfer, ond mae rhai mathau o siocled yn felyn ("gwyn") neu'n ddu. Yr uchaf yw canran y coco, yna gorau yw ansawdd y siocled.

Caiff siocled ei greu o gnau y goeden coco Theobroma cacao sydd yn honi o goedwigoedd yr Amazon. Mae astudieuthau genetig yn awgrymu fod siocled coed coco wedi cael eu tyfu gan bobol am bron i 3000 o flynyddoedd yn ne a chanolbarth America ac ymddengys ei fod yn cael ei ddefnyddio i wneud diod. Mae'r enw 'siocled' yn dod o'r gair Aztec am y math yma o ddiod, xocolātl, gair o'r iaith Nahuatleg sydd yn golygu 'dŵr chwerw'. Heddiw mae bron i 3/4 o gynhyrchiad byd-eang o siocled yn dod o Affrica, gyda hanner y cynhyrchiad yma yn dod o Côte d'Ivoire.

Mae llawer o bobl ym Mhrydain Fawr yn hoff iawn o siocled. Maent yn "siocoholig", dywedir. Mae hi'n bosib yfed siocled poeth hefyd—i wneud y ddiod, cymysgwch coco a llaeth a siwgr, a phoethwch mewn sosban ar y tân neu yn y ffwrn meicrodon.

Blodyn Cacao yn tyfu yn yr Almaen.

Cysylltiadau Allanol [golygu]


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am siocled
yn Wiciadur.