Afon Orinoco

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pont dros yr Orinoco ger Ciudad Bolívar, Feneswela

Afon yn Ne America yw afon Orinoco. Gyda hyd o 2,140 km, mae'n un o afonydd hwyaf y cyfandir. Mae tua thri chwarter o'i hyd yn Feneswela a'r chwarter arall yn Colombia.

Ceir tarddiad yr Orinoco ger Parima, gerllaw'r ffîn rhwng Feneswela a Brasil. Llifa tua'r gofgledd i aberu yng yr Iwerydd. Dangosir yr Orinoco ar fap o 1529, ond dim ond yn y 18fed ganrif y bu fforwyr yn teithio ar hyd yr afon, yn eu plith José Solano, Alexander von Humboldt ac Aimé Bonpland. Dim ond yn 1951 y cafwyd hyd i'w tharddle.

Un nodwedd anghyffredin yw fod yr Orinoco'n ymrannu'n ddau ran, un rhan, y Brazo Casiquiare, yn llifo i'r Río Negro, ac oddi yno i afon Amazonas pan fo lefel y dŵr yn uchel.

Dalgylch yr Orinoco