Afon Amazonas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren o aber Amazonas, yn edrych tua'r de
Afon Amazonas a'i dalgylch

Mae Afon Amazonas yn afon yn rhan ogleddol De America. Yr Amazonas yw'r afon fwyaf yn y byd; mae rhywfaint o ddadlau ai'r Amazonas ynteu Afon Nîl yw'r hwyaf yn y byd, ond yn sicr mae yr Amazonas yn cario llawer mwy o ddŵr nag unrhyw afon arall. Mae'r Amazonas yn cario mwy o ddŵr na'r Mississippi, Afon Nîl ac Afon Yangtze gyda'i gilydd. Mae'r afon o leiaf 6,400 km o hyd, ac yn yr aber mae tua 60 km o led.

Cyn concwest De America gan Ewroppeaid, mae'n ymddangos nad oedd un enw ar yr afon, gyda darnau gwahanol ohoni yn dwyn enwau fel Paranaguazú, Guyerma a Solimoes. Yn 1500, y Sbaenwr Vicente Yañez Pinzón oedd arweinydd y fintai gyntaf o Ewropeaid i ddarganfod yr afon. Rhoddwyd yr enw Amazonas i'r afon gan Francisco de Orellana, wedi iddo ddarganfod llwyth lle roedd y merched yn ymladd ochr yn ochr a'r dynion, megis yr Amazoniaid ym mytholeg Roeg. Orellana oedd yr Ewropead cyntaf i ddilyn yr afon yr holl ffordd o'r Andes i'r môr.


Mae tarddiad yr afon yn y Quebrada de Apacheta, yn yr Andes yn ardal Arequipa, Periw. Mae croes bren yn nodi'r tarddle. Wedi gadael yr Andes mae'r afon yn ffurfio rhan o'r ffin rhwng Periw a Colombia yna'n llifo trwy Brasil.

Tarddle Afon Amazonas, wrth droed Nevado Mismi.

Prif afonydd y dalgylch[golygu]

Mae mwy na 1,000 o afonydd yn rhedeg i mewn i'r Amazonas. Y prif rai yw:

  

Agweddau dynol[golygu]

Mae'r Amazonas yn eithriadol o bwysig ar gyfer trafnidiaeth, a gall llongau pur fawr gyrraedd ymhell i fyny'r afon. O gwmpas glannau'r afon y mae'r mwyafrif mawr o boblogaeth ei dalgylch yn byw. Y prif borthladdoedd ar yr afon yw Iquitos (Periw), Leticia (Colombia) a Manaos (Brasil). Gellir ystyried Belem do Pará (Brasil) yn borthladd ar yr afon hefyd, er ei bod mewn gwirionedd ar Afon Tocantins ychydig cyn i honno uno a'r Amazonas.