Rio Negro (Amazonas)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Machlud haul dros y Rio Negro, rhyw ddwy km uwchlaw Manaus.

Y Rio Negro (Portiwgaleg: Rio Negro, Sbaeneg: Río Negro, "Afon Ddu") yw'r mwyaf o'r afonydd sy'n llifi i mewn i Afon Amazonas o'r ochr chwith. Mae'n tarddu gerllaw ymylon dalgylch yr Orinoco, ac mae hefyd yn cysylltu a'r Orinoco trwy Gamlas Casiquiare. Mae'n llifo i mewn i'r Rio Solimões i ffurfio Afon Amazonas gerllaw Manaus, Brasil.

Gellir mynd a llongau bychain i fyny'r Rio Negro am tua 450 milltir, gyda dyfnder o tua 4 troedfedd. Fodd bynnag, yn y tymor sych mae'r banciau tywod yn broblem. Yn y tymor gwlyb, mae'r afon yn ymestyn dros ardal 20 milltir neu fwy o lêd.

Er gwaethaf yr enw, nid yw ei dyfroedd yn hollol ddu, yn hytrach mae'r lliw yn debyf i de. Daw'r lliw yma o'r dail sy'n disgyn i'r afon o'r fforestydd ar hyd ei glannau.

Flag of Brazil.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Brasil. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill