Hispaniola

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Hispaniola

Ynys yn y Caribî yw Hispaniola. Hi yw ynys ail-fwyaf y Caribî ar ôl Cuba, gyda phoblogaeth o tua 17.5 miliwn. Mae wedi ei rhannu rhwng dwy wlad: Haiti yn rhan orllewinol yr ynys a Gweriniaeth Dominica yn ffurfio'r canol a'r dwyrain.

Yr enw brodorol ar yr ynys oedd Quisqueya ("mam yr holl wledydd"). Cyrhaeddodd Christopher Columbus yma ar 5 Rhagfyr 1492, ac enwi'r ynys yn La Española ("Sbaen fechan"), "Hispaniola yn Lladin. Yn 1697, ildiodd Sbaen draean gorllewinol yr ynys i Ffrainc. Galwyd y rhan yma yn Saint-Domingue, a daeth yn Haiti yn ddiweddarach.

Mae arwynebedd Hispaniola yn 76.480 km². Copa uchaf yr ynys yw Pico Duarte, 3,087 medr o uchder.