Guadalupe, Cáceres

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Guadalupe
Claustro de Guadalupe

Tref (municipio) yn nhalaith Cáceres yng nghymuned ymreolaethol Extremadura yn Sbaen yw Guadalupe. Mae'r boblogaeth yn 2,396. Yn ôl traddodiad, cafodd gwladwr o'r enw Gil Cordero o Alía hyd i ddelw o'r Forwyn Fair tua diwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif. Tyfodd sefydliad eglwysig yma, ac yna bentref o'i gwmpas. Mae'r fynachlog Real Monasterio de Nuestra Señora de Guadalupe a adeiladwyd yn y 14eg a'r 15fed ganrif yn gasgliad o adeiladau nodedig iawn, gyda dylanwad mudéjar cryf ar y bensaerniaeth. Yn 1993 enwyd y fynachlog yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill