Gwlff Paria
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwlff Paria (Golfo de Paria yn Sbaeneg) yn fôr mewndirol bychan, 7800 km2 (3000 milltir sgwâr) rhwng ynys Trinidad (Gweriniaeth Trinidad a Tobago) ac arfordir dwyreiniol Venezuela. Ystyrir y dyfroedd cysgodol hyn yn un o harbwrs naturiol gorau arfordir yr Iwerydd de a gogledd America. Yn wreiddiol, cafodd ei enwi'n Golfo de la Ballena (Gwlff y Morfil) gan Christopher Columbus, ond yn ystod y 19eg ganrif, achosodd y diwydiant morfila i forfilod ddiflannu o'r ardal.
Cysylltir Gwlff Paria i'r Môr Caribî yn y gogledd gan y Bocas del Dragón (neu Geg y Ddraig) rhwng Penrhyn Paria yn Venezuela a Phenrhyn Chaguaramas, ac i Sianel Columbus yn y de i Boca del Serpiente (Ceg y Sarff) rhwng Penrhyn Cedros a'r Aber Orinoco.
Cyfeiriadau [golygu]
- Anthony, Michael: "Historical Dictionary of Trinidad and Tobago". Scarecrow Press, Inc. Lanham, Md., and London. 2001. isbn=0-8108-3173-2
- Tectonigau a Dyddodiad yng Ngwlff Paria