Maya

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaethau'r Maya a'i hen ddinasoedd pwysicaf

Pobl sy'n byw yn ne Mexico a rhan ogleddol Canolbarth America yw'r Maya (Maya Yucateg: maaya'ob, Sbaeneg: mayas). Heddiw, mae rhwng 8 a 9 miliwn ohonynt, yn perthyn i 29 grŵp ethnig gwahanol. Ceir 6 miliwn yn Guatemala, 2,5 miliwn yn Mecsico a rhai miloedd yn El Salvador, Belize a Honduras. Yn y cyfnod cyn i'r Ewropeaid gyrraedd yr ardaloedd hyn, roedd gwareiddiad y Maya yn un o wareiddiadau mawr cyfandir America.

Credir fod y Maya wedi datblygu diwylliant unigryw erbyn tua 2000 CC yn y Sierra de los Cuchumatanes yng ngorllewin Guatemala. Nid yw'n eglur ymhle yr oedd y ffîn rhwng y Maya a'u cymdogion, yr Olmec yn y cyfnod hwnnw. Ceir adeiladau yn dyddio o'r 3edd ganrif CC yn Cival yn Guatemala. Yn ddiweddarach, datblygodd dinasoedd enwog Tikal, Palenque, Copán a Calakmul.

Pyramid yn Comalcalco

Seilid y diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae pyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua 200-1200) ymhlith celfyddyd orau y cyfandir. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffig yr Hen Aifft.

Dechreuodd diwylliant y Maya ddirywio o'r 8fed ganrif ymlaen, gyda nifer o ddinasoedd yn mynd yn anghyfannedd. Ceir rhywfaint o dystiolaeth archaeolegol am ryfeloedd yn y cyfnod hwn. Parhaodd y diwylliant ar benrhyn Yucatán ac ucheldiroedd Guatemala. Ymhlith dinasoedd enwog Yucatán roedd Chichén Itzá, Uxmal, Edzná a Cobá. Yn ddiweddarach, daeth dinas Mayapan i reoli'r Yucatán, hyd nes bu gwrthryfel yn ei herbyn yn 1450.

Y Gorchfygwyr[golygu]

Nid ildiodd y deyrnas Maya olaf i'r Sbaenwyr tan 1647, rhyw 170 o flynyddoedd ar ôl yr ymosodiadau cyntaf.