El Salvador

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
República de El Salvador
Gweriniaeth El Salvador
Baner El Salvador Arfbais El Salvador
Baner Arfbais
Arwyddair: Dios, Unión, Libertad
(Sbaeneg: Duw, Uniad, Rhyddid)
Anthem: Himno Nacional de El Salvador
Lleoliad El Salvador
Prifddinas San Salvador
Dinas fwyaf San Salvador
Iaith / Ieithoedd swyddogol Sbaeneg
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd Mauricio Funes
Annibyniaeth
O Sbaen
O Weriniaeth Ffederal Canolbarth America

15 Medi, 1821
1842
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
21 040 km² (153ain)
1.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 1992
 - Dwysedd
 
7 miliwn (97ain)
5 118 599
318.7/km² (32ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$34.15 biliwn (93ain)
$4700 (108fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.722 (104ydd) – canolig
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau (USD)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-6)
Côd ISO y wlad .sv
Côd ffôn +503

Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salvador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes El Salvador

Gorchfygwyd El Salvador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Honduras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salvador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salvador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth El Salvador

Llywodraethir El Salvador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth El Salvador

Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salvador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salvador â Honduras a gyda'i tharddle yng Nguatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salvador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. Mae El Salvador yr unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar y Cefnfor Atlantig.

Adrannau a bwrdeistrefi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Adrannau El Salvador a Bwrdeistrefi El Salvador
Adrannau El Salvador

Rhannir El Salvador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:

  1. Ahuachapán
  2. Cabañas
  3. Chalatenango
  4. Cuscatlán
  5. La Libertad
  6. La Paz
  7. La Unión
  1. Morazán
  2. San Miguel
  3. San Salvador
  4. San Vicente
  5. Santa Ana
  6. Sonsonate
  7. Usulután

Demograffeg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Demograffeg El Salvador

Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salvador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salvador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]

Twristiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Twristiaeth yn El Salvador

[1] Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salvador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salvador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.

Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Guatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Honduras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.

Addysg[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Addysg yn El Salvador

[1] Seilir cyfundrefn addysg El Salvador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salvador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)

Cysyllltiadau allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gwefannau'r llywodraeth[golygu]

Gwefannau'r cyfryngau[golygu]

Gwefannau newyddion[golygu]

Gwefannau teledu[golygu]