Aztec
Defnyddir Aztec neu Astec fel didgrifiad o nifer o grwpiau ethnig yng nghanolbaeth Mexico, yn arbennig grwpiau yn siarad yr iaith Nahuatl. Daethant yn feistri ar ran helaeth o Ganol America o'r 14eg ganrif i'r 16eg ganrif, gan ffurfio Ymerodraeth yr Aztec. Canolbwynt y gwareiddiad Aztec oedd Dyffryn Mexico.
Weithiau defnyddir y term "Aztec" ar gyfer pobl dinas-wladwiaeth Tenochtitlan yn unig. Y ddinas yma, ar ynys yn Llyn Texcoco, Dinas Mexico yn awr, a alwai eu hunain y "Mexica". Gall hefyd gynnwys y ddwy ddinas-wladwriaeth oedd yn gyngheiriaid a Tenochtitlan, yr Acolhua o Texcoco a'r Tepanec o Tlacopan. Gellir hefyd sôn am wareiddiad Aztec, yn cynnwys yr holl wladwriaethau Altepetl.
Yn 1521, ymosododd Hernán Cortés, gyda nifer fychan o Sbaenwyr a byddin fwy o gyngheiriaid Nahuatl, ar Tenochtitlan a'i choncro, gan roi diwedd ar ymerodraeth yr Aztec.