Heddwch
Oddi ar Wicipedia
Absenoldeb gwrthdaro neu ryfel yw Heddwch. Mae yna air Cymraeg arall sydd ag ystyr tebyg i "Heddwch" sef "Tangnefedd". Mae angen cyfiawnder i gael gwir dangnefedd, ac ni cheir tangnefedd drwy drais ond trwy garu ein gelynion. [angen ffynhonnell]
Mae gan y Cenhedloedd Unedig "Lu cadw heddwch" sef byddin sy'n ceisio datrys gwrthdaro rhwng pobl neu wledydd. Ond nid yw'r Llu cadw heddwch yn Llu di-drais gan ei bod yn defnyddio trais os oes rhaid i gadw'r heddwch. Mae'r syniad o ddefnyddio trais neu ryfel i "greu" heddwch yn hen syniad; rhyfel cyfiawn yw'r ymadrodd a ddefnyddir. Dywedwyd ar y pryd fod y Rhyfel Byd Cyntaf i fod yn "rhyfel i orffen neu ddiweddu pob rhyfel". Ond bu rhyfeloedd ar ôl y rhyfel byd. Cred heddychwyr nad yw trais na rhyfela yn creu heddwch mewn gwirionedd. Mae yna enghreifftiau o drais yn cael eu defnyddio i oresgyn a thawelu pobl, megis y "Pax Romana" dan yr Ymerodraeth Rufeinig, neu fel y gwnaeth y Normaniaid yng Nghymru, a'r Ymerodraeth Brydeinig mewn sawl gwlad arall yn y byd (gweler Imperialaeth). Ond dadlau heddychwyr fod ceisio heddwch trwy drais yn ofer, ac mai trwy gyfiawnder y mae creu gwir heddwch.
[golygu] Heddwch a chrefydd
Mae sawl crefydd yn annog heddwch, Bwdhaeth, Cristnogaeth ac Islam er enghraifft (yn wir, heddwch yw un o ystyron y gair الإسلام). Fodd bynnag, mae rhai anffyddwyr yn honni fod crefydd yn achosi gwrthdaro.
[golygu] Mudiadau heddwch
Mae yna nifer o fudiadau sy'n gweithio dros heddwch yng Nghymru, megis CND a Chymdeithas y Cymod, a hefyd nifer o grwpiau heddwch a chyfiawnder lleol. Mae'r mudiadau yma'n ymgyrchu yn erbyn rhyfel a thrais yn y byd.