Llythrennedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r byd yn dangos canrannau llythrenedd

Llythrenedd yw'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae canrannau llythrenedd yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac yn cael ei gyfrif fel un o'r mynegeion datblygu gan gyrff fel UNESCO, er enghraifft yr Indecs Datblygiad Dynol; mewn gwledydd cyfoethog mae bron pawb yn meddu ar lythrenedd tra bod lefelau llythrenedd mor isel â 10-15% mewn rhai gwledydd tlawd, yn bennaf yn yr Affrica is-Saharaidd. Yn y gorffennol ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen a sgwennu, a'r rhan fwyaf yn perthyn i'r dosbarthiadau breintiedig neu'n offeiriaid. Erbyn heddiw mae bod yn anlythrennog yn anfantais fawr yn y byd ac yn debyg o gadw pobl mewn tlodi.

Arolwg o lythrenedd yn y gorffennol[golygu]

Yn y gorffennol roedd India a Tsieina yn mwynhau lefelau cymharol uchel o lythrenedd. Roedd prifysgolion fel yr un Fwdhaidd enwog yn Nalanda, gogledd India, yn addysgu disgyblion o bob rhan o Asia gyda phobl yn barod i deithio ymhell er mwyn cael addysg.

Ymlediad araf llythrenedd yn yr Henfyd. Roedd yr ardaloedd mewn glas tywyll yn mwynhau lefel uchel o lythrenedd erbyn tua 2300 CC. Roedd llythrenedd yn bod yn yr ardaloedd gwyrdd tywyll erbyn tua 1300 CC a'r ardaloedd gwyrdd ysgafn erbyn tua 300 CC. Nid yw'r map yn dangos rhai o'r ardaloedd yn Asia lle ceid llythrenedd yn y cynfodau hyn. Ond sylwer mai dim ond canran isel o'r boblogaeth oedd yn mwynhau yr hyn a elwir yn llythrenedd lawn heddiw

Mae lefel uchel y graffiti a geir mewn safleodd Rhufeinig hynafol fel Pompeii, yn awgrymu fod nifer sylweddol yn meddu ar ryw lefel o lythrenedd.

Oherwydd ei phwyslais ar ddarllen y Coran gan ungolion yn yr Arabeg wreiddiol, mae nifer o wledydd Islamaidd wedi mwynhau lefelau uchel o lythrenedd ers deuddeg ganrif neu ragor. Yn ôl y gyfraith Islamaidd (Fatwa), mae gallu darllen y Coran yn cael ei ystyried yn ddyletswydd crefyddol.

Yn yr Oesoedd Canol roedd lefelau llythrenedd ymysg Iddewon Ewrop yn uwch nag yn y cymunedau Cristnogol. Roedd y rhan fwyaf o Iddewon grwywaidd yn medru darllen ac ysgrifennu Hebraeg. Mae Iddewiaeth yn rhoi pwyslais mawr ar astudio'r testunau sanctaidd, fel y Tanakh a'r Talmud.

Yn Lloegr Newydd, roedd canran llythrenedd ymysg yr ymsefydlwyr Ewropeaidd dros 50% yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif, gan godi i dros 70% erbyn 1710. Erbyn amser y Chwyldro Americanaidd, roed wedi cyrraedd tua 90%. Mae'n debyg fod hyn yn ganlyniad i bwyslais y Piwritaniaid ar ddarllen y Beibl yn Saesneg.

Yng Nghymru, saethodd y lefel llythrenedd i fyny yn y 18fed ganrif, pan ddechreuodd Griffith Jones redeg ei Ysgolion cylchynnol, gyda'r bwriad o gael pawb o'r werin i fedru darllen y Beibl yn Gymraeg. Mae'n bur debyg fod gan Gymru'r lefel uchaf o lythrenedd yn y byd yn 1750, a hynny er gwaethaf y ffaith fod yr ysgolion swyddogol yn uniaith Saesneg.

Anlythrenedd heddiw[golygu]

Lefelau anlythrenedd 1970-2015 (amcangyfrif)

Mae nifer o gyrff ac unigolion wedi lleisio eu consyrn am lefelau anlythrenedd ym mhoblogaeth y byd, er gwaethaf y ffaith fod canrannau llythrenedd wedi codi'n gyson dros y degawdau diwethaf, yn abennig yn y trydydd fyd. Eithriad i'r drefn arferol oedd y gwledydd hynny yn y trydydd fyd a ddilynai ideoleg Marcsaidd (Gweriniaeth Pobl China, Cuba, a Fietnam, er enghraifft), a brofasant dyfiant ymhlith y mwyaf syfrdanol yn hanes y byd, gan agosáu at y lefelau a geir yng Nghanada ac Ewrop (ers degawdau mae lefel llythrenedd Cuba yn uwch na'r lefel yn yr Unol Daleithiau). Yn ôl diffiniad y Cenhedloedd Unedig o anlythrenedd fel "bod heb fedru darllen neu sgwennu brawddeg elfennol mewn unrhyw iaith," roedd 20% o boblogaeth y byd yn anlythrennaidd yn 1998, gyda'r mwyafrif ohonynt yn byw yn Affrica islaw y Sahara a rhannau o Asia.

Dolenni allanol[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am llythrennedd
yn Wiciadur.