Graffiti

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Graffiti fel celf: "Miss Van y Ciou", Barcelona, Sbaen.
Graffiti gang yn Llanrug, Gwynedd.

Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.

Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.
Nuvola apps package graphics.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gelfyddyd neu gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill