Capel Celyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Protest Lerpwl 21/11/1956.
Clawr y llyfr Cysgod Tryweryn gan Owain Williams.
Boddi Tryweryn: y dŵr yn codi dros yr hen B4391, Awst 1965.

Pentref ger y Bala, Sir Feirionydd yng Nghymru a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl, Lloegr oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd a 48 o drigolion.

Hanes y boddi[golygu]

Tryweryn
Capel Celyn
Mesur Tryweryn
Tri Tryweryn
Ffermydd a foddwyd yng Nghwm Tryweryn
Llyn Celyn
Cofiwch Dryweryn
gw  sg  go )

Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm Tryweryn i gyflenwi dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y prosiect werth £20 miliwn. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn Efyrnwy. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.[1]

Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke, y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd y Fonesig Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones.

Arweiniodd Plaid Cymru y gwrthwynebiad i'r cynllun, gyda Gwynfor Evans yn arwain dirprwyaeth i gyfarfod Corfforaeth Lerpwl gan roi anerchiad grymus. Roedd nifer o'r genhedlaeth ifanc yn siomedig serch hynny nad oedd unrhyw weithredu uniongyrchol wedi bod ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd Emyr Llywelyn, John Albert Jones ac Owain Williams.

Er gwaethaf yr ymgyrchu yn erbyn y gronfa, cwblhawyd yr adeiladu ym mis Awst 1965 a cafwyd seremoni agoriadol swyddogol iddi ym mis Hydref yr un flwyddyn.

Rhestr gyflawn o'r eiddo a foddwyd (o'r gorllewin i'r dwyrain yn fras):

Moelfryn Gwerndelwau
Glan Celyn + y Llythyrdy (Post Office) Y Capel (Chapel)
Y Fynwent (Cemetery) Ty Capel (Chapel House)
Tynybont Yr Ysgol (School)
Brynhyfryd Y Gelli
Cae Fadog Penbryn Fawr
Coed Mynach Dol Fawr
Garnedd Lwyd Hafod Fadog (Quaker meeting place) + Mynwent y Crynwyr (The Quakers' Cemetery)
Y Tyrpeg (The Turnpike) Tyddyn Bychan
Capel Coffa Tryweryn

Ymosodiad Chwefror 1963[golygu]

Prif erthygl: Tri Tryweryn.

Roedd dechrau 1963 yn gyfnod o dywydd caled o eira a rhew gyda'r ffyrdd yn anodd iawn i'w tramwy. Roedd y gwaith o adeiladu'r argae yn ei anterth. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar y gwaith yn un uchelgeisiol iawn, ond fe newidiodd pethau pan ymunodd Emyr Llywelyn â'r cynllun. Roedd e am i'r weithred fod yn un symbolaidd i'w gweld fel gweithred wlatgarol yn hytrach nag un derfysgol.

Yr ymateb[golygu]

Slogan ar fur yn atgoffa pobl am foddi Cwm Tryweryn. Mae'r cyngor am ddiogelu'r mur sydd yn "eicon" ond yn dirywio[2]
Prif erthygl: Cofiwch Dryweryn.

Canodd y beirdd llawer am foddi Cwm Tryweryn ac yn eu plith, Dafydd Iwan:

Mae argae ar draws Cwm Tryweryn
Yn gofgolofn i'n llyfdra ni;
Dyw'r werin ddim digon o ddynion, bois,
I fyny ei rhyddid hi.

I lawer o Gymry gwladgarol daeth boddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn symbol o'r bygythiad i barhad yr iaith Gymraeg ei hun fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig yn y 1980au wrth i'r nifer o bentrefi Cymraeg eu hiaith fynd yn sylweddol lai diolch i ymfudo i gael gwaith gan Gymry ifainc a mewnfudo gan bobl o'r tu allan i Gymru, gan amlaf yn Saeson di-Gymraeg. Mynegir hyn gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd adnabyddus Tryweryn, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cilmeri a cherddi eraill yn 1991 ond a gyfansoddwyd yn y 1980au. Dyma'r pennill agoriadol:

Nid oes inni le i ddianc,
Nid un Tryweryn ein tranc,
Nid un cwm ond ein cymoedd,
O blwyf i blwyf heb na bloedd
Na ffws y troir yn ffosil
Nid un lle ond ein holl hil.[3]

Cyfarwydd hefyd yw'r gwpled cofiadwy o'r un gerdd,

Fesul tŷ nid fesul ton
Y daw'r môr dros dir Meirion.[4]

Tryweryn Heddiw[golygu]

Yn 2005, 50 mlynedd wedi i'r argae gael ei chwblhau, cafwyd ymddiheuriad swyddogol gan Gyngor Lerpwl, i drigolion y pentref a'r ardal, a Chymru gyfan, am foddi'r pentref. Hefyd yn 2006, ailbeintwyd y slogan enwog Cofiwch Dryweryn wedi iddo gael ei ddifrodi gan graffiti.[5]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Davies, Hanes Cymru (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.
  2. Erthygl BBC, sy'n cynnwys hefyd llun o'r mur cyn iddo ddirywio
  3. Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri a cherddi eraill (Gwasg Gwynedd, 1991), tud. 48.
  4. Cilmeri, tud. 48.
  5. Boddi pentref Tryweryn Erthygl BBC

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: