Palenque

Oddi ar Wicipedia
Palenque
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolPalenque National Park Edit this on Wikidata
SirPalenque Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd1,772 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.4842°N 92.0464°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, eiddo diwylliannol, cadwriaethol Edit this on Wikidata
Manylion

Hen ddinas yn perthyn i'r gwareiddiad Maya ym Mecsico yw Palenque. Saif ger afon Usumacinta yn nhalaith Chiapas, tua 130 km o'r de o ddinas Ciudad del Carmen.

Palenque

Roedd y ddinas yn ganolfan bwysig o'r 5g hyd y 9g. Adeiladwyd yr adeiladau cynharaf sydd i'w gweld heddiw tua 600. Roedd yn anghyfannedd ymhell cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd yr ardal. Ei brenin enwocaf oedd Pacal Fawr, a deyrnasai o 615 hyd 683. Dynodwyd Palenque yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987.

Eginyn erthygl sydd uchod am Fecsico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato