Chichén Itzá
Oddi ar Wicipedia
Pyramid Kukulcán, Chichén Itzá
Hen ddinas yn perthyn o'r diwylliant Maya ac un o safleoedd archaeolegol pwysicaf Mexico yw Chichén Itzá. Saif ar benrhyn Yucatán, yn nhalaith Yucatán
Mae'r adeiladau mwyaf ar y safle yn dyddio o'r cyfnod pan oedd diwylliant y Maya yn dechrau edwino mewn rhannau eraill o Ganolbarth America. Gellir gweld dylanwad y diwylliant Toltec arnynt. Roedd prif dduw y ddinas, Kukulcán, yn ymgnawdoliad o Quetzalcóatl, o'r pantheon Toltec.
Dynodwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988.