Robert E. Lee

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert E. Lee

Robert Edward Lee, a adwaenir fel Robert E. Lee, (19 Ionawr 1807 - 12 Hydref 1870), oedd y cadfridog amlycaf ar ochr y De Cydffederal yn Rhyfel Cartref America.

Ganed Lee yn Swydd Westmoreland, Virginia, yn fab i Henry Lee III "Light Horse Harry" (1756–1818), Llywodraethwr Virginia, a'i ail wraig, Anne Hill Carter (1773–1829). Aeth i ysgol filwrol West Point, lle roedd yn un o'r myfyrwyr disgeiriaf. Erbyn i'r Rhyfel Cartref ddechrau, ystyrid ef yn un o filwyr galluocaf yr Unol Daleithiau, ac yn gynnar yn 1861, cynigiodd yr Arlywydd Abraham Lincoln ei wneud yn bennaeth ar fyddin yr Undeb. Gwrthododd Lee, gan fod talaith Virginia ymhlith y taleithiau oedd wedi gadael yr Undeb, a'i fod yn teimlo fod rhaid iddo ddilyn ei dalaith.

Daeth yn brif gynghorydd i Jefferson Davis, Arlywydd y De, yna ym mis Mehefin 1862 daeth yn arweinydd lluoedd y De yn y dwyrain, byddin a ail-enwodd Lee yn "Fyddin Gogledd Virginia". Enillodd nifer o fuddugoliaethau pwysig dros fyddinoedd yr Undeb, yn arbennig Brwydrau'r Saith Diwrnod, Ail Frwydr Bull Run, Brwydr Fredericksburg a Brwydr Chancellorsville. Pan geisiodd ymosod ar y Gogledd, bu'n llai llwyddiannus; bu raid iddo ddychwelyd i'r de wedi Brwydr Antietam yn 1862, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Gettysburg yn 1863 gan George Meade.

Yng ngwanwyn 1864, dechreuodd pennaeth newydd byddinoedd yr Undeb, Ulysses S. Grant, gyfres o ymgyrchoedd yn erbyn byddin Lee. Er fod golledion Grant yn llawer mwy na rhai Lee yn y brwydrau a ddilynodd, gallai'r Undeb ddod a milwyr newydd i'r maes yn eu lle, tra'r oedd adnoddau'r de bron ar ben. Bu raid i Lee ildio i Grant yn Appomattox Courthouse ar 9 Ebrill 1865.