Josip Broz Tito

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Josip Broz Tito ym 1971.

Chwyldroadwr a gwladweinydd Iwgoslafaidd oedd y Marsial Josip Broz Tito (Serbo-Croateg: Јосип Броз Тито; ynganiad Serbo-Croateg: [jɔ̂sip brɔ̂ːz tîtɔ]; ganwyd Josip Broz; 7 Mai 1892 – 4 Mai 1980) a wasanaethodd mewn nifer o swyddi o 1945 hyd ei farwolaeth ym 1980.[1] Er i rai feirniadu ei arlywyddiaeth yn gyfnod awdurdodaidd,[2][3][4] ystyrid Tito gan y mwyafrif yn unben tadol o ganlyniad i lwyddiant ei bolisïau economaidd a diplomyddol,[5] ac roedd yn boblogaidd yn Iwgoslafia a thramor.[6] Ystyrid yn symbol o undod[7] a lwyddodd i gadw cydfodolaeth heddychlon ymysg cenhedloedd Iwgoslafia. Daeth i sylw'r byd fel un o brif arweinwyr y Mudiad Amhleidiol, ynghyd â Jawaharlal Nehru a Gamal Abdel Nasser.[8]

Ganwyd Josip, seithfed blentyn i Franjo a Marija Broz, ym mhentref Kumrovec yn Awstria-Hwngari, sydd heddiw yn rhan o Groatia. Cafodd ei alw i'r fyddin a daeth yn yr Uwch Sarsiant ieuengaf ym Myddin Awstria-Hwngari.[9] Fe'i anafwyd yn ddifrifol gan y Rwsiaid, a gipiasant i'w ddanfon i wersyll gwaith ym Mynyddoedd yr Wral. Brwydrodd yn Chwyldro Hydref ac ymunodd ag uned y Gwarchodlu Coch yn Omsk. Dychwelodd gartref i Deyrnas Iwgoslafia ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol.

Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol (ac yn hwyrach Arlywydd) Cynghrair Comiwnyddion Iwgoslafia (1939–80), ac arweiniodd herwfilwyr y Partisaniaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1941–45).[10] Ar ôl y rhyfel, ef oedd Prif Weinidog (1943–63) ac yna Arlywydd (1953–80) Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (SFRY). O 1943 hyd ei farwolaeth ym 1980, daliodd rheng Marsial Iwgoslafia, sef pencadlywydd Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), lluoedd milwrol y wlad. O ganlyniad i'w boblogrwydd tramor mewn dau floc y Rhyfel Oer, derbynodd rhyw 98 o addurniadau gan wledydd eraill, gan gynnwys y Légion d'honneur ac Urdd y Baddon. Angladd Tito oedd yr angladd gwladwriaethol mwyaf erioed.[11][12]

Tito oedd prif sefydlwr "yr ail Iwgoslafia", ffederasiwn sosialaidd a fodolodd o'r Ail Ryfel Byd hyd 1991. Er yr oedd yn un o sefydlwyr Cominform, ef oedd y yr aelod cyntaf o Cominform i herio hegemoni'r Undeb Sofietaidd a'r unig un a wnaeth hynny'n llwyddiannus. Cefnogodd ennill sosialaeth trwy ffyrdd annibynnol, mewn modd tebyg i sosialaeth genedlaethol, a gelwir ei ideoleg yn Titoaeth. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf y Mudiad Amhleidiol, a hyrwyddodd bolisi o niwtraliaeth rhwng dau floc y Rhyfel Oer. Arweiniodd ei bolisïau economaidd a diplomyddol at ymchwydd economaidd yn Iwgoslafia yn y 1960au a'r 1970au.[13][14][15] Llethwyd cenedlaetholdeb rhanbarthol gan ei bolisïu mewnwladol, a hybodd "brawdoliaeth ac undod" chwe chenedl Iwgoslafia. Wedi marwolaeth Tito ym 1980, datblygodd tensiynau rhwng gweriniaethau'r ffederasiwn ac ym 1991 chwalodd Iwgoslafia gan arwain at gyfres o ryfeloedd yn y 1990au. Mae Tito yn barhau yn ffigur dadleuol yn y Balcanau.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Josip Broz Tito". Encyclopædia Britannica Online. http://www.britannica.com/EBchecked/topic/597295/Josip-Broz-Tito. Adalwyd 27 April 2010. 
  2. Cohen, Mark F.; Fidler, Jay W. (2002). Group Psychotherapy and Political Reality: A Two-Way Mirror. International Universities Press. tud. 193. ISBN 0-8236-2228-2. 
  3. Andjelic, Neven (2003). Bosnia-Herzegovina: The End of a Legacy. Frank Cass. tud. 36. ISBN 0-7146-5485-X. 
  4. Tierney, Stephen (2000). Accommodating National Identity: New Approaches in International and Domestic Law. Martinus Nijhoff Publishers. tud. 17. ISBN 90-411-1400-9. 
  5. Shapiro, Susan; Shapiro, Ronald (2004). The Curtain Rises: Oral Histories of the Fall of Communism in Eastern Europe. McFarland. ISBN 0-7864-1672-6. http://books.google.hr/books?id=oCqWFQ1WKlkC&pg=PA180&dq=tito+benevolent+dictator&hl=en&sa=X&ei=eZiVT8u1Io_NswahzJyVBA&redir_esc=y#v=onepage&q=tito%20benevolent%20dictator&f=false. 
    "...All Yugoslavs had educational opportunities, jobs, food, and housing regardless of nationality. Tito, seen by most as a benevolent dictator, brought peaceful co-existence to the Balkan region, a region historically synonymous with factionalism."
  6. Melissa Katherine Bokovoy, Jill A. Irvine, Carol S. Lilly, State-society relations in Yugoslavia, 1945–1992; Palgrave Macmillan, 1997 p.36 ISBN 0-312-12690-5
    "...Of course, Tito was a popular figure, both in Yugoslavia and outside it."
  7. Martha L. Cottam, Beth Dietz-Uhler, Elena Mastors, Thomas Preston, Introduction to political psychology, Psychology Press, 2009 p.243 ISBN 1-84872-881-6
    "...Tito himself became a unifying symbol. He was charismatic and very popular among the citizens of Yugoslavia."
  8. Peter Willetts, The non-aligned movement: the origins of a Third World alliance (1978) p. xiv
  9. Ridley, Jasper (1996). Tito: A Biography. Constable. ISBN 0-09-475610-4 t. 59.
  10. Bremmer, Ian (2007). The J Curve: A New Way to Understand Why Nations Rise and Fall. Simon & Schuster. tud. 175. ISBN 0-7432-7472-5. 
  11. Vidmar, Josip; Rajko Bobot, Miodrag Vartabedijan, Branibor Debeljaković, Živojin Janković, Ksenija Dolinar (1981). Josip Broz Tito – Ilustrirani življenjepis. Jugoslovenska revija. tud. 166. 
  12. Ridley, Jasper (1996). Tito: A Biography. Constable. tud. 19. ISBN 0-09-475610-4. 
  13. Lampe, John R.; Yugoslavia as history: twice there was a country; Cambridge University Press, 2000 ISBN 0-521-77401-2
  14. Ramet, Sabrina P.; The three Yugoslavias: state-building and legitimation, 1918–2005; Indiana University Press, 2006 ISBN 0-253-34656-8
  15. Michel Chossudovsky, International Monetary Fund, World Bank; The globalisation of poverty: impacts of IMF and World Bank reforms; Zed Books, 2006; (University of California) ISBN 1-85649-401-2