Animeiddiad
Dangosiad cyflym o gyfres o luniau 2D neu fodelau 3D er mwyn creu symudiad rhithiol yw animeiddiad. Rhith symudiad gweledol ydyw a greir drwy'r ffenomena gweledol parhaus, a gellir ei greu drwy amryw o ffyrdd gan gynnwys animeiddio digidol. Y ffordd mwyaf cyffredin o gyflwyno animeiddiad yw mewn ffilm neu raglen fideo, er bod nifer o ffyrdd eraill o gyflwyno animeiddio'n bodoli hefyd.
Animeiddio clasurol [golygu]
Yn draddodiadol, tynwyd llun ar bapurau, gyda phob llun ychydig yn wahanol i'r un o'i flaen. Un o brif animeiddwyr y byd yw Walt Disney. Ceir hefyd nifer o gwmnïau animeiddio hynod lwyddiannus yng Nghymru ers dyfodiad S4C, gyda chartwnau megis SuperTed a Sam Tân.
Animeiddio digidol (neu gyfrifiadurol) [golygu]
Erbyn y 1990au roedd meddalwedd wedi'i sgwennu a wnaeth hi'n bosibl i'r cyfrifiadur "greu'r" animeiddiad.
|
|
Enghraifft o animeiddiad digidol
Tri Dimensiwn. |
| Problemau wrth wrando ar y ffeil hon? Gweler cymorth cyfryngau. | |