Sapporo
Oddi ar Wicipedia
Dinas fawr yn Japan yw Sapporo (Japaneg: 札幌市 Sapporo-shi), pumed dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth. Saif y ddinas yn ne ynys Hokkaidō, yng ngogledd Japan. Lleolir yn is-dalaith Ishikari.
Daeth dinas Sapporo yn enwog am iddi gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 1972, y cyntaf i'w cynnal ar gyfandir Asia, ac hefyd am ei Gŵyl Eira blynyddol (Japaneg: さっぽろ雪まつり Yuki Matsuri). Mae Sapporo hefyd yn enwog am ei chwrw, Sapporo.