Hiroshima
Oddi ar Wicipedia
|
Hiroshima
|
|
|---|---|
![]() |
|
| Motto: | |
| o fewn Talaith Hiroshima, Japan | |
|
Daearyddiaeth
|
|
| Statws: | Dinas (1589) |
| Pencadlys: | Hiroshima |
| Arwynebedd: | 905.01 km² |
| Cód ONS: | |
| ISO 3166-2: | |
|
Demograffeg
|
|
| Poblogaeth (2007) | 1,159,391 1,281.1/ km² |
|
Gwleidyddiaeth
|
|
| [1] | |
| Gweithgor: | |
| AS: | |
Prif ddinas Talaith Hiroshima yn Japan yw Hiroshima, a dinas fwyaf rhanbarth Chūgoku yng ngorllewin Honshū, ynys fwyaf Japan. Hiroshima oedd y ddinas gyntaf erioed i brofi arfau niwclear pan ollyngwyd bom arni gan yr Unol Daleithiau ar y 6ed o Awst, 1945 yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Cafodd Hiroshima statws bwrdeisdrefol ar y 1af o Ebrill, 1889. Maer presennol y ddinas yw Tadatoshi Akiba a ddechreuodd ar ei swydd ar y 23ain o Chwefror, 1999.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Hiroshima ar arfordir mewnforol y Mor Seto ym 1589 gan Mori Terumoto a wnaeth y ddinas yn brifddinas wedi iddo adael Castell Koriyama yn Nhalaith Province. Adeiladwyd Castell Hiroshima'n gyflym iawn, a symudodd Terumoto yno ym 1593. Collodd Terumoto Frwydr Sekigahara. Amddifadodd buddugwr y frwydr honno, Tokugawa Ieyasu, Mori Terumoto o'i eiddo gan gynnwys Hiroshima, gan roi talaith Aki i Masanori Fukushima, arglwydd ffiwdal a oedd wedi cefnogi Tokugawa. Trosglwyddwyd y castell i Asano Nagaakira ym 1619, ac apwyntiwyd Asano yn arglwydd yr ardal hon. O dan reolaeth Asano, ffynnodd, datblygodd ac ehangodd y ddinas, a phrin oedd yr gwrthdaro a'r anghydweld milwrol. Parhaodd llinach Asano i reoli tan yr Adfywiad Meiji yn y 19eg ganrif.
[golygu] Cyfnod modern
Bu Hiroshima'n brifddinas ardal Hiroshima yn ystod y cyfnod Edo. Ar ôl i'r han gael ei ddiddymu ym 1871, daeth y ddinas yn brifddinas Talaith Hiroshima. Daeth Hiroshima'n ardal ddinesig mawr yn ystod y cyfnod Meiji wrth i economi Japan symud o'r diwydiant amaethyddol i'r diwydiannau trymach. Adeiladwyd Harbwr Ujina yn ystod y 1880au, a alluogodd Hiroshima i fod yn borthladd pwysig.
Ymestynwyd y Rheilffordd Sanyo i Hiroshima ym 1894, ac adeiladwyd rheilffordd o'r prif orsaf i'r harbwr er mwyn symud offer milwrol yn ystod y Rhyfel Sino-Japan Cyntaf. Sefydlwyd ffatrioedd diwydiannol newydd, gan gynnwys melinau gwlan yn Hiroshima ar ddiwedd y 1880au. Gwelwyd diwydiannu pellach yn Hiroshima o ganlyniad i'r Rhyfel Rwsia-Japan ym 1904, lle'r oedd angen datblygu a chynhyrchu offer milwrol. Adeiladwyd Neuadd Arddangos Masnach Talaith Hiroshima ym 1915 fel canolfan i fasnachu ac arddangos nwyddau newydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Neuadd Arddangos Cynnyrch Talaith Hiroshima, ac yn ddiweddarach eto i Neuadd Hyrwyddo Diwydiannau Talaith Hiroshima.
[golygu] Yr Ail Rhyfel Byd a'r bom atomig
Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, lleolwyd pencadlys yr Ail Fyddin a Byddin Rhanbarthol Chugoku yn Hiroshima, tra bod Pencadlys Morol y Fyddin wedi'i leoli ym mhorthladd Ujina. Roedd gan y ddinas storfeydd mawrion o adnoddau milwrol hefyd, ac roedd yn ganolfan allweddol ar gyfer allforio.
Achosodd bomio Tokyo a dinasoedd eraill yn Japan ddinistr difrifol yn ystod yr Ail Rhyfel Byd a lladdwyd dros 200,000 gyda'r mwyafrif llethol ohonynyt yn drigolion. Er enghraifft, dinistrwyd yr ardal ddinesig Toyama, lle trigai 128,000 bron yn llwyr, a lladdwyd tua 90,000 o bobl gan fomiau yn Tokyo.
Ar ddydd Llun, 6 Awst, 1945 am 8:15 y.b. gollyngwyd yr arf niwclear "Little Boy" ar Hiroshima gan griw y bomiwr B-29 Americanaidd, yr Enola Gay, gan ladd 80,000 o bobl yn uniongyrchol. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd yr anafiadau a'r ymbelydredd wedi achosi i'r nifer o farwolaethau gynyddu i 90,000-140,000. Dinistriwyd tua 69% o adeiladau'r ddinas yn gyfangwbl, a 6.6% wedi'u difrodi'n ddifrifol.
Cyfyngwyd gwaith ymchwil am effaith yr ymosodiad a sensoriwyd gwybodaeth tan arwyddwyd Cytundeb Heddwch San Francisco ym 1951, pan ddychwelwyd rheolaeth o'r ardal yn ôl i Japan.
Ysgrifennwyd llawer am Hiroshima mewn adroddiadau newyddion, nofelau a diwylliant poblogaidd yn ystod y blynyddoedd wedi'i bomio.
[golygu] Demograffeg
Poblogaeth y ddinas oedd 1,159,391 (2007) er fod gan ardal fetropolitanaidd y ddinas boblogaeth amcangyfrifol o 2,043,788 yn 2000. Arwynebedd y ddinas yw 905.08 km², gyda dwysedd poblogaeth o 1275.4 person i bob km².
Tua 1910, poblogaeth y ddinas oedd 143,000. Cyn yr Ail Rhyfel Byd, roedd poblogaeth Hiroshima wedi tyfu i 360,000 cyn cyrraedd uchafswm o 419,182 ym 1942. O ganlyniad i ollwng y bom atomig ym 1945, lleihaodd y boblogaeth i 137,197. Erbyn 1955, roedd poblogaeth y ddinas wedi dychwelyd i'r un lefel ag yr oedd cyn y rhyfel.
[golygu] Wardiau
Mae 8 wardiau (ku) yn Hiroshima:
| Ku | Poblogaeth | Arwynebedd (km²) | Dwysedd poblogaeth (per km²) |
|
|---|---|---|---|---|
| Aki-ku | 78,176 | 94.01 | 832 | |
| Asakita-ku | 156,368 | 353.35 | 443 | |
| Asaminami-ku | 220,351 | 117.19 | 1,880 | |
| Higashi-ku | 122,045 | 39.38 | 3,099 | |
| Minami-ku | 138,138 | 26.09 | 5,295 | |
| Naka-ku | 125,208 | 15.34 | 8,162 | |
| Nishi-ku | 184,881 | 35.67 | 5,183 | |
| Saeki-ku | 135,789 | 223.98 | 606 | |
| Poblogaeth ar ôl 31 Hydref 2006 | ||||


