G8

Oddi ar Wicipedia
G8
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol, group of major economic countries Edit this on Wikidata
Daeth i ben2014 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys23rd G8 summit, 24th G8 summit, 25th G8 summit, 26th G8 summit, Uwchgynhadledd yr G8, 2001, 28th G8 summit, 29th G8 summit, 30th G8 summit, uwchgynhadledd yr G8, 32nd G8 summit, 33rd G8 summit, 34th G8 summit, 35th G8 summit, 36th G8 summit, 37th G8 summit, 38th G8 summit, Uwchgynhadledd yr G8, 2013 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddG7 Edit this on Wikidata
OlynyddG7 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o aelodau'r G8 (gwyrdd tywyll) a'r gwledydd a gynrychiolwyd gan yr UE (gwyrdd golau).

Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, Japan, Rwsia, ac Unol Daleithiau America oedd yr G8 (Grŵp yr Wyth) a fodolai o 1997 i 2014. Sefydlwyd yn sgil ychwanegu Rwsia at yr G7, a daeth i ben pan gafodd Rwsia ei diarddel yn sgil cyfeddiannu'r Crimea ym Mawrth 2014. Ar un pryd, gyda'i gilydd roedd y gwledydd hyn yn cynrychioli tua 65% o economi'r byd.[1]

Roedd gweithgareddau'r grŵp yn cynnwys cynadleddau trwy'r flwyddyn ac ymchwil polisi, sy'n diweddu gyda chynhadledd flynyddol rhwng penaethiaid llywodraethol yr aelodau-wladwriaethau. Cynrychiolwyd y Comisiwn Ewropeaidd yn y cynadleddau hefyd. Pob blwyddyn, byddai aelod-wladwriaethau'r G8 yn cymryd eu tro fel llywyddiaeth y grŵp. Byddai deiliad y llywyddiaeth yn gosod agenda flynyddol y grŵp ac yn cynnal cyfarfod y flwyddyn honno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.