Hokkaidō

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y ci, gweler Hokkaido (ci).
Lleoliad Hokkaidō

Un o bedair ynys fawr Japan yw Hokkaidō (北海道, Hokkai-dō), wedi ei lleoli yng ngogledd y wlad. Gydag arwynebedd o 78,719 km², hi yw ynys ail-fwyaf Japan; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Y ddinas fwyaf yw Sapporo. Saif i'r gogledd o ynys Honshu, gyda phontydd a thwnnel Seikan yn eu cysylltu. Roedd y boblogaeth yn 5,583,072 yn 2008.

Defnyddir "Hokkaidō" hefyd fel enw rhanbarth a talaith. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o ynysoedd llai o'i chwmpas. Y fwyaf o'r rhain yw ynys Etorofu (3,185 km²), ynys fwyaf gogleddol Japan, sydd ym meddiant Rwsia ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'r boblogaeth yn cynnwys lleiafrif o Ainu.

Flag Japan template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato