Talaith Kagoshima yn Japan
Talaith yn Japan yw Kagoshima neu Talaith Kagoshima (Japaneg: 鹿児島県 Kagoshima-ken) yn Ne ynys Kyūshū, Gorllewin Japan. Mae'r dalaith hefyd yn cynnwys nifer sylweddol o ynysoedd gogleddol Ynysoedd Ryukyu (Japaneg: 琉球諸島 Ryūkyū-shotō neu 南西諸島 Nansei-shotō). Ei phrifddinas yw dinas Kagoshima.