Nagasaki
Dinas a phorthladd yn Japan yw Nagasaki (長崎市, Nagasaki-shi). Saif ar ynys Kyushu, yn rhan ddeheuol y wlad. Ar 1 Ebrill 2008, roedd y boblogaeth yn 445,172.
Mae Nagasaki wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Ym mae Nagasaki ceid ynys Dejima, lle roedd masnachwyr Portiwgeaidd, ac yn ddiweddarch o'r Iseldiroedd, yn dod i fasnachu.
Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd Nagasaki yn un o'r ddwy ddinas a ddifrodwyd gan fom atomig. Dri diwrnod wedi i'r Unol Daleithiau ollwng bom atomig ar Hiroshima, gollyngasant fom cyffelyb ar Nagasaki ar 9 Awst 1945. Lladdwyd tua 39,500 o'r trigolion, ac anafwyd tua 25,000.
Ar 17 Ebrill 2007, saethwyd maer Nagasaki, Itchō Itō, yn farw ger gorsaf y rheilffordd. Roedd y llofrudd, Tetsuya Shiroo, yn un o arweinyddion y Suishin-kai, grŵp cysylltiedig a'r Yamaguchi-gumi, y gangen fwyaf o'r Yakuza.
Enwogion [golygu]
- Heisuke Yanagawa (1879-1945), milwr
- Ineko Sata (1904-1998), awdures
- Kazuo Ishiguro (g. 1954), nofelydd