Anaximandros

Oddi ar Wicipedia
Anaximandros
Anaxímandros yn Athen (manylyn o lun gan Raffael, c. 1510)]]
Ganwydc. 610 CC Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
Bu farwc. 546 CC Edit this on Wikidata
Miletus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMiletus Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, seryddwr, mathemategydd, daearyddwr, ffisegydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amapeiron Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadThales Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth cyn-Socratig, Ysgol Milesaidd Edit this on Wikidata
TadPraxiades Edit this on Wikidata

Athronydd Groegaidd cynnar oedd Anaxímandros (Groeg: Ἀναξίμανδρος, Anaximander mewn rhai ieithoedd) (c. 610 CC - 546 CC). Roedd yn frodor o ddinas Roeg Miletos, yn Asia Leiaf. Mae'n bosibl ei fod yn ddisgybl i Thales ac yn olynydd iddo.

Ysgrifennodd lyfr dylanwadol, Ar Natur. Mae'r llyfr ar goll bellach ond gwyddys am rai o syniadau Anaxímandros am fod awduron Clasurol diweddarach yn dyfynnu o'i lyfr, a gafodd gylchrediad eang yn yr Henfyd. Ymhlith yr adwuron sy'n ei dyfynnu y mae Aristotlys, Plutarch a Hippolytus.

Roedd yn credu nad elfen, fel aer neu ddŵr, oedd Prif Egwyddor y bydysawd ond yn hytrach yr apeiron (y Tragwyddol / Di-derfyn). Mae rhai o'i syniadau'n wreiddiol iawn. Credai mai'r byd yw canolbwynt y bydysawd a'i fod yno yn y canol heb gael ei ddal i fyny gan unrhyw beth; fod pob creadur byw wedi ymddangos o'r mwd cynoesol a bod bodau dynol wedi esblygu o greaduriaid eraill, cynharach, llai deallus.

Roedd yn gartograffydd hefyd, a luniodd y map cyntaf a wyddys; fe'i cyhoeddwyd yng ngwaith Hecataeus o Filetos ar ddaearyddiaeth.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Jonathan Barnes, Early Greek Philosophy (Llundain, 1987). Ymdriniaeth ar feddwl Anaxímandros gyda'r dyfyniadau o'i waith sydd wedi goroesi (tt. 71-77).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner Gwlad GroegEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Roegwr neu Roeges. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato..