Gwlff Suez
Oddi ar Wicipedia
Sinai o'r gofod gyda Gwlff Suez i'r chwith a Gwlff Aqaba i'r de
Braich o'r Môr Coch yw Gwlff Suez. Mae'n gorwedd ym mhen gogleddol y môr hwnnw rhwng gorynys Sinai i'r dwyrain a thir mawr yr Aifft i'r gorllewin. Mae'n un o'r tramwyfeydd llongau prysuraf yn y byd sy'n cysylltu'r Môr Canoldir a Chefnfor India trwy Gamlas Suez yn ei ben gogleddol.