Mynyddoedd y Cawcasws
Oddi ar Wicipedia
Cadwyn o fynyddoedd yn Ewrasia, rhwng y Môr Du a Môr Caspia yw Mynyddoedd y Cawcasws. Ystyrir gan lawer eu bod yn ffurfio'r ffîn rhwng Ewrop ac Asia, er bod hyn yn ddadleuol.
Rhennir y mynyddoedd hyn yn ddwy ran:
- Y Cawcasws Mwyaf, lle ceir y mynyddoedd uchaf. Y copa uchaf yw Elbrus, 5,642 m.
- Y Cawcasws Lleiaf, sy'n gorwedd rhyw 100 km i'r de o'r Cawcasws Mwyaf. Y copa uchaf yma yw Aragats, 4,095 m..
Dyffryn yn y Cawcasws yn Georgia