Mindanao
Oddi ar Wicipedia
Ynys ail-fwyaf y Pilipinas yw Mindanao. Yn ogystal, mae'n enw ar un o dri grŵp o ynysoedd yn y Pilipinas, gyda Visayas a Luzon. Hen enw ar yr ynys oedd Gran Molucas.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 97,530 km2 a phoblogaeth o 18,133,864. Y ddinas fwyaf yw Davao, gyda phoblogaeth o 1,147,116 yn 2000. Mae'n ynys fynyddig, ac yma mae copa uchaf y wlad, Mynydd Apo (2,954 medr). Er mai Cristnogion yw mwyafrif y trigolion, ceir canran uwch o Fwslimiaid yma nag yn y gweddill o'r Pilipinas, ac mae nifer o gyrff yn ymladd am annibyniaeth, yn eu plith Jemaah Islamiyah.