Rhyfel Irac

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffilm o filwyr yr Unol Daleithiau'n cael eu croesawu; Mawrth 2003. Byr oedd y croeso hwn.

Yn 2003, fe aeth llywodraethau Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Unedig i ryfel yn erbyn Irac a'i harlywydd Saddam Hussein, rhyfel a barodd hyd at 2011 pan adawodd yr UDA.

Cred llawer fod yr Americanwyr, o dan eu llywydd George W. Bush am ddial ar Saddam Hussein ar ôl ymosodiadau terfysgol 11 Medi 2001, ond nid oes tystiolaeth am unrhyw gysylltiad rhwng Irac a'r ymosodiadau.

Fe brotestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn Llundain ac yn ninasoedd eraill trwy'r wlad a thrwy'r byd ym mis Chwefror 2003, ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr y ddwy wlad. Er hyn, parhaodd protestiadau am fisoedd i ddod.[1]

Digwyddiadau yn arwain at ryfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhyfel y Gwlff[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn Rhyfel y Gwlff yn 1991 gosodwyd sancsiynau ar gyfundrefn Saddam hyd nes y cadarnhawyd fod unrhyw arfau dinistriol wedi eu dinistrio'n llwyr. Yn dilyn y rhyfel hyd 1998 arolygwyd Irac gan UNSCOM, gan ddarganfod a dinistrio deunydd cemegol a chyfarpar niwclear a deunydd arall a waharddwyd. Datblygodd gwrthdarro rhwng Irac a'r Cenhedloedd Unedig yn 1998 ac awdurdodwyd gan gyfundrefn Clinton ymgyrch fomio i rwystro Saddam rhag datblygu arfau dinistriol ac i ddileu ei allu i fygwth ei gymdogion.[2]

9/11[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhesymau dros yr ymosodiad ar Irac yn 2003 fel ei rhoddir gan UDA yn ddadleuol. Daeth y galwadau cyntaf am ryfel oddi wrth PNAC (Project for the New America) a'r American Enterprise Institute gyda dadleuon wedi eu seilio yn bennaf ar honiadau bod Saddam yn bygwth diddordebau America yn y rhanbarth. Nid dyma'r rhesymau serch hynny a roddodd gweinyddiaeth Bush ac nid yw'r rhesymau hyn erioed wedi cael eu cydnabod gan gyfundrefn America.

Mewn araith ar 12 Medi 2002 dechreuodd George W. Bush ymgyrch gyhoeddus i geisio argyhoeddi'r byd bod Saddam Hussein yn torri cyfyngiadau ar arfau dinistriol, hawliau dynol, carcharorion rhyfel Ciwait, terfysgaeth a gwrthod gadael i arolygwyr y CU yn ôl i Irac.[3] Er honodd awdurdoadau Irac taw llawn anwireddau oedd yr araith,[4] cytunodd nhw i adael yr arolygwyr i fewn ar 17 Medi 2002.[5]

Y rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Bomio Irac; 2 Ebrill 2003. Llun: Landsat 7.

Dechreuodd yr ymosodiad a'r gwladychiad ar yr 20fed o Fawrth 2003 pan oresgynnodd lluoedd America gyda chynorthwy lluoedd Prydain, Awstralia, Denmarc a Gwlad Pwyl. Gorchfygwyd byddinoedd Saddam Hussein yn gyflym ac fe wnaeth ffoi. Ceisiodd y Cyngrair a arweiniwyd gan America i sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, ond methodd adfer cyfraith a threfn yn Irac. Arweiniodd yr anhrefn i ryfel cartref rhwng y Sunni a'r Shia yn Irac ac fe ddaeth al-Qaedia i weithredu yno. Dechreuodd gwledydd y Cyngrair dynnu allan fel y cryfhodd y farn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel. Mae'r rhyfel yn dal yn ddadleuol o gwmpas y byd.

Ar ôl y rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ail-adeiladu Irac[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 20 Mai, 2003, cyhoeddodd America cynllun i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ail-adeiladu Irac.[6]. Sonir yn y cynllun am greu llywodraeth newydd ac am osod y rhaglen ddadleuol "olew am fwyd" am gyfnod hirach na'r disgwyl.

Llywodraeth newydd Irac[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth drafod dyfodol llywodraeth Irac yn ystod cyfarfod yng Nghastell Hillsborough, Belffast, dywedodd yr Arlywydd Bush "Iraciaid o du mewn a thu allan y wlad fydd yn ffurfio'r llywodraeth newydd yno".[7] Ar ôl sefydlu'r llywodraeth newydd, daeth galwadau o'r gwledydd sy'n ffinio ag Irac ar luoedd America a Phrydain i adael y wlad,[8].

Y gwrthryfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mater gymharol hawdd oedd gorchfygu byddin aneffeithiol Irac ar y maes agored ond yn fuan ar ôl diwedd swyddogol y rhyfel dechreuodd gwrthryfelwyr daro'n ôl yn erbyn lluoedd UDA.

Un o frwydrau mwyaf y gwrthryfel oedd Brwydr Fallujah yn 2004 pan wnaeth lluoedd America gyfres o gyrchoedd milwrol yn erbyn y ddinas honno am ei bod yn gadarnle i wrthryfelwyr.

Roedd y gwrthryfelwyr yn cynnwys cyn-aelodau o'r Blaid Baath a chefnogwyr Saddam Hussein, grwpiau Sunni, a grwpiau Shia fel Byddin y Mahdi dan arweinyddiaeth Muqtada al-Sadr. Cymhlethwyd y sefyflla gan y ffaith fod y grwpiau hyn yn tueddu i fod yn elyniaethus i'w gilydd, yn arbennig y Baathiaid a'r grwpiau Sunni ar y naill law a'r grwpiau Shia ar y llaw arall. Credir yn ogystal fod nifer o dramorwyr yn y wlad, rhai ohonyn nhw'n ymladd gyda'r grwpiau uchod ac eraill yn perthyn i grwpiau terfysgol gan gynnwys Al Qaeda a grwpiau sy'n gweithredu yn enw y mudiad terfysgol hwnnw.

Cyfiawnhau'r rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod y rhyfel, protestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn Llundain a thrwy'r byd gan ddod i'w hanterth yn Chwefror 2003; ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr yr UDA, Prydain na gwledydd eraill y Cynghreiriaid.[9] Un o'r prif resymau dros benderfyniad Tony Blair dros fynd i'r Rhyfel oedd ei honiad fod gan Irac y gallu i ymosod gyda chemegau gwenwynig ar Brydain, gyda dim ond 45 munud o rybydd.

Ar 15 Mehefin 2009 cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Gordon Brown, ymchwiliad i'r hyn a arweiniodd i'r Rhyfel gan gynnwys y 'rhesyma' a'r dystiolaeth a oedd ar gael i wneud y penderfyniad o fynd i'r rhyfel, 'er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol'. Gelwir yr ymchwiliad hwn yn Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac a chychwynwyd ar y gwaith ar 24 Tachwedd 2009.


Cost y rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod Rhyfel Irac, a hyd at ddiwedd Mehefin 2005, bu farw 654,965 o bobl yn ôl y 'Lancet'[10][11][12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Protest yn erbyn y rhyfel", BBC, 12 Ebrill, 2003.
  2. (Saesneg) "Timeline of the Iraqi crisis", BBC, 21 Rhagfyr, 1998.
  3. "Bush yn herio'r CU i ddisodli Saddam", BBC, 12 Medi, 2002.
  4. "Irac: 'Araith Bush yn llawn celwydd'", BBC, 13 Medi, 2002.
  5. "Rhwyg o fewn y CU", BBC, 17 Medi, 2002.
  6. "Irac: America yn cyhoeddi cynllun", BBC, 20 Mai, 2003.
  7. "Irac: 'CU yn bwysig'", BBC, 8 Ebrill, 2005.
  8. "'Rhaid i America adael Irac'", BBC, 19 Ebrill, 2003.
  9. "Protest yn erbyn y rhyfel", BBC, 12 Ebrill, 2003.
  10. brusselstribunal.org; adalwyd 5 Chwefror 2015
  11. Supplement to 2006 Lancet study: "The Human Cost of the War in Iraq: A Mortality Study, 2002–2006" PDF (603 KB). Gan Gilbert Burnham, Shannon Doosy, Elizabeth Dzeng, Riyadh Lafta, a Les Roberts.
  12. Opinion essay (numerous signatories) (21 Hydref 2006). "The Iraq Deaths Study Was Valid and Correct". The Age. Adalwyd 2 Medi 2010

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]