Geographica (Strabo)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygiad Casaubon o'r Geographica (Paris, 1620)

Llyfr daearyddiaeth pwysig gan y daearyddwr Groegaidd Strabo (c. 64 CC- OC19). Mae rhannau o'r testun yn llwgr. Ceir y testun gorau o lyfrau 1-9 yn llawysgrif Paris 1397 (12fed ganrif) ond mae llawysgrif Paris 1393 (13eg ganrif-14eg ganrif) yn well am ran olaf y testun. Mae'r 7fed llyfr yn fylchog iawn.

Cynnwys[golygu]

Yn y Geographica (Groeg Γεωγραφικά) mae Strabo yn disgrifio gwledydd, pobl, arferion, crefyddau a hanes gwledydd yr Hen Fyd. Mae'n ffynhonnell eithriadol o bwysig am wybodaeth o dopograffi a hanes y cyfnod. Mae Strabo yn amlwg yn tynnu ar ei brofiad personol o rai lleoedd (roedd wedi teithio'n eang) ond mae o'n defnyddio gwaith daearyddwyr a haneswyr eraill hefyd, yn abennig Eratosthenes. Mae ganddo lygad craff am bobl a llefydd ac mae ei arddull yn eglur a deniadol.

Mae'r Geographica yn cael ei rannu yn 17 llyfr (liber).

Dylanwad[golygu]

Y Geographica yw'r llyfr daearyddiaeth pwysicaf a ysgrifenywd erioed yn y Gorllewin. Am ganrifoedd roedd ysgolheigion o bob rhan o Ewrop a'r Môr Canoldir yn troi ato am wybodaeth ac ysbrydoliaeth ac fe barhaodd i fod y prif lyfr cyfeiriadol ar y bwnc hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol.

Llyfryddiaeth[golygu]

Horace L. Jones (gol.), Strabo: Geography, 8 gyfrol (Llundain, 1933). Argraffiad o'r testun Groeg gyda chyfieithiad Saesneg cyferbyn.