Eratosthenes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eratosthenes

Ysgolhaig ac athronydd Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica.

Bywyd[golygu]

Dechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247 CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemy II (Ptolemy Euergetes) i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 C.C., gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.

Gwaith[golygu]

Roedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:

  • Y Geographica (3 llyfr). Ffynhonnell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
  • Y Chronographia. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a mathemateg i sefydlu cronoleg hanes.
  • Llyfr ar Yr Hen Gomedi Roeg.
  • Y Catalogoi. Cymysgedd o seryddiaeth a chwedloniaeth. Casgliad o'r hen chwedlau yn ymwneud â'r sêr oedd yn cael ei dilyn gan restr o'r sêr unigol yn y cytserau cysylltiedig. Mae'r Catasterismoi, sy'n rhestru 44 cytser a 475 o sêr, ynghyd â chwedlau, wedi goroesi ac yn seiliedig ar waith Eratosthenes.
  • Hermes. Arwrgerdd.
  • Erigone. Telyneg (elegy) enwog yn ei dydd.

Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).